Os nad ydych yn talu'ch bil dŵr

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych beth sy'n medru digwydd pan fydd arnoch arian i'ch cwmni dwr a beth fedrwch chi ei wneud am y peth.

A yw'ch cwmni dwr yn medru datgysylltu'ch cyflenwad?

Os ydych yn gwsmer domestig (nid yn gwsmer busnes, hynny yw), yn ôl y gyfraith ni fydd cwmnïau dwr yn medru datgysylltu'ch cyflenwad dwr, na chyfyngu arno, os oes arnoch arian iddynt.

Pa gamau all eich cwmni dwr eu cymryd i gael ei arian yn ôl?

Pryd bynnag fyddwch chi'n cael bil, sicrhewch mai eich bil chi ydyw a'i fod wedi cael ei gyfrifo'n iawn.  Ar ôl anfon bil atoch, efallai y bydd cwmni dwr yn:

  • anfon nodyn atgoffa - un neu fwy - gyda'r rhybudd olaf yn rhoi saith niwrnod i chi dalu. Os oes mwy nag un bil dwr gennych heb ei dalu, dylech gael nodyn atgoffa ar wahân ynglyn â phob bil

  • eich ffonio chi i ofyn am daliad

  • trosglwyddo'ch dyled at asiantaeth adennill dyledion.

Fel y cam olaf un, mae'r cwmni'n medru dwyn achos llys yn eich erbyn er mwyn cael dyfarniad llys sirol i adennill yr arian sydd arnoch chi.  Yna, efallai y cewch lythyr gan gwmni beilïaid yn dweud ei fod yn mynd i ddod i'ch cartref. Os ydyn nhw'n galw heibio a chithau'n eu gadael i mewn i'ch cartref, maen nhw'n medru cymryd nwyddau er mwyn eu gwerthu i dalu'r arian sydd arnoch chi.

Trafod gyda'r cwmni dwr

Siaradwch â'ch cwmni dwr unwaith y sylweddolwch chi nad ydych yn medru talu'ch bil.  Os fedrwch chi gyfrifo faint fedrwch chi ei dalu, a chytuno ar hyn gyda’r cwmni, fe fydd yn osgoi'r gofid a'r gost o fynd i'r llys a gorfod wynebu costau ychwanegol.  Fe fydd hefyd yn golygu nad yw'n effeithio ar eich sgôr credyd.

Dylai fod gan bob cwmni dwr god ymarfer ar gyfer delio gyda chwsmeriaid sydd ar ei hôl hi gyda'r taliadau. Cysylltwch â'ch cwmni i ofyn am gopi o'i god ymarfer - dylai fod manylion cyswllt ar eich bil.  Defnyddiwch y cod ymarfer hwn i ddod i drefniant ynghylch ad-dalu'r hyn sydd arnoch chi.

Ffoniwch, yna ysgrifennwch at eich cwmni dwr, a chynigiwch swm fedrwch chi ei dalu ar sail y dwr yr ydych chi'n ei ddefnyddio ar hyn o bryd a'r hyn fedrwch chi ei fforddio tuag at y swm sy'n ddyledus.   Mae gan rai cwmnïau wasanaeth llinell dyledion.  

I gyfrifo faint fedrwch chi fforddio'i dalu tuag at y swm sy'n ddyledus, cyfrifwch faint o arian sy'n dod i mewn, faint sy'n mynd allan a pha ddyledion eraill sydd gennych.  Dylai'r cwmni fod yn sensitif ac ystyried eich gallu i dalu.  Weithiau, efallai y bydd yn bosib dileu'r ddyled, felly ni fydd yn rhaid i chi ei thalu o gwbl.

Efallai y bydd eich cwmni dwr yn gwrthod eich cynnig i dalu os nad yw'n ddigon i glirio'ch bil presennol a'r swm sy'n ddyledus.  Fodd bynnag, dylech ystyried talu unrhyw beth fedrwch chi ei fforddio o hyd, a chadw tystiolaeth o'r taliadau.  Fe allai hyn eich helpu i ddadlau yn nes ymlaen eich bod wedi bod mor rhesymol â phosib ac wedi gwneud eich gorau i glirio unrhyw ddyledion.

Waterdirect

Os ydych yn derbyn rhai budd-daliadau, gallwch gael didyniad trydydd person ar gynllun o'r enw Waterdirect.  Mae'n golygu bod yr Adran Gwaith a Phensiynau'n talu rhywfaint allan o'ch budd-daliadau yn syth i'r cwmni dwr.  Efallai y bydd y cwmni dwr yn gofyn i chi wneud hyn os na fydd yr holl ffyrdd eraill o dalu wedi gweithio.

Os nad ydych yn siwr o'r ffordd orau i drafod gyda'r cwmni dwr, efallai y bydd Cyngor ar Bopeth yn medru helpu. Os nad ydych yn hapus ag ymateb eich cwmni dwr, gallwch ofyn i'r Cyngor Defnyddwyr Dwr ymchwilio i'r mater ar eich rhan.

Cynlluniau arbennig

Efallai y bydd gan eich cwmni dwr gynlluniau arbennig i helpu grwpiau penodol o bobl neu i helpu clirio dyledion.

Efallai y byddwch hefyd yn medru cael help gan gynllun o'r enw Watersure. Os ydych yn gwsmer i Dŵr Cymru, efallai y byddwch yn medru cael help gan Gynllun Cymorth Dŵr Cymru.

Arbed arian ar filiau dwr

There may be things you can do to cut down on water bills in the future. This could prevent you from getting into further debt. Getting a water meter, getting on a special payment scheme if there is one, and using less water can all help.

Camau nesaf

I gael help i dalu biliau dwr gweler Help i dalu biliau dwr

I ddarllen mwy am y cynlluniau y mae cwmnïau dwr yn eu rhedeg i'ch helpu i glirio dyledion, gweler Water UK.

I ddarllen mwy am Watersure, gweler Cynllun Watersure i helpu talu biliau dwr.

I ddarllen mwy am Gynllun Cymorth Dwr Cymru, gweler Cynllun Cymorth Dwr Cymru -  help i dalu biliau dwr.

Os oes angen help pellach arnoch

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

  • Canllawiau OFWAT i gwmnïau ar Ddelio gyda chwsmeriaid domestig sydd mewn dyled ar: www.oftwat.gov.uk.

  • I ddarganfod pa gwmni dwr sy'n cyflenwi dwr yn eich ardal chi, rhowch glic ar wefan y Cyngor Defnyddwyr Dwr ar: www.ccwater.org.uk.

  • I gael help pellach ar faterion dwr,  ewch at wefan y Cyngor Defnyddwyr Dwr ar: www.ccwater.org.uk.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 20 Chwefror 2020