Help i dalu'ch biliau dŵr
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae'r dudalen hon yn edrych ar ffyrdd o dalu llai am eich dwr.
Beth fedrwch chi ei wneud i dalu llai am eich dwr
Os ydych yn ei chael yn anodd talu'ch biliau dwr ac nid oes mesurydd dwr gennych, ymchwiliwch i weld a fedrwch chi arbed arian trwy osod un. Mae gan lawer o gwmnïau dwr, yn ogystal â'r Cyngor Defnyddwyr Dwr ac uSwitch, declynnau cyfrifo'r defnydd o ddwr ar eu gwefan, er mwyn eich helpu i gyfrifo faint yr ydych yn debygol o'i dalu os oes mesurydd gennych.
Gallwch edrych ar ffyrdd o ddefnyddio llai o ddwr, a dylech sicrhau nad oes unrhyw ddwr yn gollwng i achosi i'ch bil fod yn uwch nag y dylai fod.
Os ydych yn cael trafferth talu bil dwr, siaradwch â'ch cwmni dwr cyn gynted â phosib. Efallai y byddwch yn medru gwasgaru'r taliadau dros gyfnod hirach trwy gynllun talu. Mae cwmnïau dwr yn derbyn amrywiaeth o ddulliau talu.
Cynlluniau arbennig
Mae llawer o gwmnïau dwr yn rhedeg cynlluniau caledi neu'n ariannu ymddiriedolaethau elusennol annibynnol sy'n medru eich helpu i ad-dalu'ch biliau os ydych mewn dyled. Cysylltwch â'ch cwmni dwr i holi pa gynlluniau sydd ar gael. Mae yna wybodaeth ynghylch y cynlluniau gwahanol sydd ar gael ar wefan WaterUK hefyd.
Os ydych chi'n cael budd-daliadau, gallwch hefyd holi a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun Watersure, neu, os ydych yn gwsmer gyda Dŵr Cymru, Cynllun Cymorth Dŵr Cymru.
Fedrwch chi gael unrhyw fudd-daliadau nad ydych yn eu cael ar hyn o bryd?
Sicrhewch eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau fedrwch chi eu hawlio.
Camau nesaf
I gael gwybod mwy am arbed arian trwy newid at fesurydd dwr, gweler Newid at fesurydd dwr
I gael gwybod mwy am yr hyn fedrwch chi ei wneud os ydych yn cael trafferth talu'ch biliau, gweler Os nad ydych yn talu'ch biliau dwr
I gael gwybod mwy am ddefnyddio llai o ddwr, gweler arbed arian yn y cartref – gair o gyngor
I ddarllen mwy am ollyngiadau dwr, gweler Gollyngiadau dwr
I gael gwybod mwy am gronfeydd caledi ac ymddiriedolaethau elusennol sy'n cael eu rhedeg gan gwmnïau dwr, rhowch glic ar wefan www.water.org.uk
Yn llyfryn Ymddiriedolaeth Ynni Nwy Prydain ceir manylion cynlluniau sy’n cael eu rhedeg gan gwmnïau dŵr ac ynni ar gyfer achlysuron pan fyddwch yn cael trafferth talu’ch bil dŵr neu ynni, ac mae ar gael ar www.britishgasenergytrust.org.uk
Gwybodaeth ddefnyddiol arall
Canllawiau OFWAT i gwmnïau ar Ddelio gyda chwsmeriaid domestig sydd mewn dyled ar: www.oftwat.gov.uk
I ddarganfod pa gwmni dwr sy'n cyflenwi dwr yn eich ardal chi, rhowch glic ar wefan y Cyngor Defnyddwyr Dwr yn: www.ccwater.org.uk
I gael help pellach ar faterion yn ymwneud â dwr, ewch at wefan y Cyngor Defnyddwyr Dwr ar: www.ccwater.org.uk
I ddarganfod a fyddech chi'n elwa o fesurydd dwr, rhowch glic ar wefan uSwitch ar: www.uswitch.com/water
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 20 Chwefror 2020