Reaching crisis point: the story in Wales|Cyrraedd pwynt argyfwng: y stori yng Nghymru

Mae adroddiad diweddaraf Cyngor ar Bopeth Cymru, 'Cyrraedd pwynt argyfwng: y stori yng Nghymru' yn amlygu'r realiti newydd pryderus bod natur bod mewn argyfwng wedi newid: mae'r hyn a fu unwaith yn ddigwyddiad annisgwyl, tymor byr ym mywyd person bellach wedi symud i frwydr barhaus o beidio â chael digon o arian i gynhesu cartrefi na bwydo teuluoedd. 

Mae ein canfyddiadau'n dangos bod y cymorth argyfwng presennol yn cael ei ymestyn i wneud swydd na chafodd ei chynllunio iddi erioed, ac er ei fod yn cynnig achubiaeth, mae'n parhau i fod yn brin wrth fynd i'r afael ag anghenion grwpiau penodol a'r rhai sydd mewn caledi difrifol. 

Er mwyn lleihau'r angen am gymorth argyfwng ar gyfer hanfodion a biliau bob dydd, mae ein hadroddiad yn amlinellu amrywiaeth o ddiwygiadau polisi. Hyd nes y bydd y rhain yn cael eu gweithredu, bydd angen parhau i gynnal a chryfhau cynllun cymorth argyfwng parhaol yng Nghymru i helpu pobl nawr ac yn y dyfodol.

Arolwg

Llenwch ein harolwg i roi eich adborth ar ein tudalennau polisi. Bydd eich ymatebion yn ein helpu i barhau i wella sut rydym yn cyflwyno ymchwil polisi a data ar ein gwefan.