PPMs and Fuel Poverty 2024 | Mesuryddion Rhagdalu a Thlodi Tanwydd 2024
Mae tystiolaeth ddiweddaraf Cyngor ar Bopeth Cymru yn dangos bod defnyddwyr mesuryddion rhagdalu (PPM) yng Nghymru yn mynd yn rheolaidd heb hanfodion er mwyn cadw mewn cysylltiad â'u cyflenwad ynni. Fe wnaethom helpu 1,690 o bobl gyda thalebau tanwydd ym mis Ionawr yn unig, a mwy na 8,000 o bobl yn ystod 2023. Er bod disgwyl i brisiau ynni ostwng rhywfaint o fis Ebrill ymlaen, byddant yn dal i fod yn llawer uwch nag yng Ngaeaf 2021/22.
Gweler isod ein briff ar PPMs a thlodi tanwydd yng Nghymru yn amlinellu'r anawsterau dyddiol y mae pobl ledled Cymru yn dal i'w hwynebu.