Rhoi gwybod am fasnachu pobl

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae pobl yn cael eu masnachu at ddibenion ecsbloetio ac elw masnachol.

Os ydych chi’n amau bod rhywun wedi cael ei fasnachu, gallwch helpu i’w gwneud nhw’n ddiogel.

Os ydych chi’n amau masnachu pobl, ffoniwch yr heddlu. Ffoniwch 999 os yw’n argyfwng, neu 101 os nad yw’n argyfwng.

Os byddai’n well gennych beidio â rhoi’ch enw, ffoniwch Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.

Os nad ydych chi am alw’r heddlu, gallwch siarad ag elusen yn ddienw.

Adnabod masnachu pobl

Nid dim ond yn y diwydiant rhyw mae pobl yn cael eu masnachu. Mae pobl yn cael eu hecsbloetio yn y diwydiant adeiladu, ffermio a hyd yn oed gweithio yng nghartrefi pobl eraill.

Mae’r canlynol fel arfer yn wir am bobl sydd wedi’u masnachu:

  • mae rhywun wedi dweud celwydd wrthynt am natur y swydd

  • maen nhw wedi cael eu symud o wlad arall (ond mae pobl yn gallu cael eu masnachu o fewn y DU hefyd)

  • maen nhw’n cael eu gorfodi i weithio

  • maen nhw’n cael eu monitro’n agos iawn gan bwy bynnag maen nhw’n gweithio iddyn nhw

Am fod pobl yn cael eu masnachu i weithio am gyflog bach iawn neu am ddim cyflog o gwbl, mae’n cael ei alw hefyd yn ‘gaethwasiaeth fodern’ neu’n ‘ecsbloetio’ llafur.

Arwyddion masnachu pobl

Mae pob achos o fasnachu yn wahanol, ond mae ganddyn nhw nodweddion cyffredin. Gallai dioddefwr masnachu pobl:

  • fod â fawr ddim rhyddid

  • gweithio am gyflog bach iawn neu am ddim cyflog o gwbl

  • ymddangos fel pe bai mewn dyled i rywun

  • byw mewn ofn rhywun, neu hyd yn oed yr awdurdodau

  • dangos arwyddion o gamdriniaeth gorfforol, fel briwiau a chleisiau

  • symud yn aml

Gall plant gael eu masnachu hefyd. Byddant yn rhannu nifer o nodweddion cyffredin gyda dioddefwyr sy’n oedolion, ond gallant ymddangos yn wahanol i blant eraill oherwydd:

  • mae ganddyn nhw arian neu eiddo na allan nhw roi cyfrif amdano

  • dydyn nhw ddim fel petaen nhw’n byw gyda rhieni neu warcheidwaid

  • maen nhw’n oriog yn emosiynol, e.e. yn ymosodol, yn eu cragen neu’n ofidus

Cael cyngor

Os hoffech chi gyngor cyfrinachol am fasnachu cyn galw’r heddlu, mae nifer o sefydliadau arbenigol y gallwch chi siarad â nhw. Gallwch gysylltu â:

Os hoffech chi siarad â rhywun wyneb yn wyneb, gall eich Cyngor ar Bopeth lleol eich helpu i benderfynu beth i’w wneud nesaf.

Beth sy’n digwydd ar ôl i chi roi gwybod am fasnachu

Y peth cyntaf fydd yr heddlu’n ei wneud yw amddiffyn rhywun sydd wedi cael ei fasnachu rhag unrhyw un a allai wneud niwed iddo.

Bydd yr heddlu a sefydliadau arbenigol yn gweithio gyda’i gilydd i roi cymorth ymarferol ac emosiynol i’r dioddefwr. Byddant yn cael gofal meddygol ac yn helpu i drefnu llety mewn man diogel, i ffwrdd oddi wrth ei fasnachwyr.

Os yw’n ddiogel, bydd y dioddefwr yn cael cymorth i ddychwelyd i’w wlad gartref. Os nad yw’n ddiogel dychwelyd, o bosib oherwydd y gallai gael ei fasnachu eto, gallai wneud cais am loches yn y DU.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 27 Medi 2019