Aros yn y DU ar fisa ar ôl ysgariad

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych chi yn y DU fel dibynnydd ar fisa’ch partner, byddwch yn colli’ch statws fisa ar ôl i chi wahanu neu ysgaru. Bydd angen i chi edrych i weld a ydych chi’n gymwys i aros yn y DU, a gwneud cais am fisa newydd os gallwch chi. Os nad ydych chi’n gymwys i aros yn y DU mae’n bosib y bydd rhaid i chi adael.

Mae angen i chi a’ch partner ddweud wrth y Swyddfa Gartref eich bod chi'n gwahanu neu'n ysgaru. Os nad ydych chi’n gwneud hyn, gallai effeithio ar unrhyw gais am fisa a wnewch chi yn y dyfodol.

Pwysig

Dylech gael cymorth cynghorydd cyfreithiol arbenigol, a fydd yn gallu’ch cynghori ar sail eich amgylchiadau unigol. Gallwch:

Ymgartrefu yn y DU ar eich pen eich hun

Gallwch weld a ydych chi'n gymwys i ymgartrefu yn y DU (neu gael ‘caniatâd i aros am gyfnod amhenodol’) yn GOV.UK.

Os gallwch chi ymgartrefu yn y DU ar eich pen eich hun, dyma’r opsiwn gorau mae’n debyg. Os ydych chi’n gymwys, cewch aros yn y DU yn annibynnol ar eich partner.

Os oes gennych chi blant yn y DU

Un opsiwn ar gyfer aros yn y DU yw’r ‘llwybr rhieni’ – gallech fod yn gymwys os oes gennych chi blant sy’n byw yn y DU. Dyma ffordd gyffredin i rieni gael byw yn y DU ar ôl iddynt wahanu neu ysgaru.

Mae yna amryw o amodau y bydd gofyn i chi eu bodloni i allu aros yn y DU fel rhiant. Os hoffech wybod mwy am y manylion, darllenwch am gymhwystra llwybrau rhieni a sut mae ymgeisio yn GOV.UK.

Gall cynghorydd cyfreithiol arbenigol eich helpu gyda’ch cais.

Newid i fisa gwaith os ydych chi’n gweithio am gyflog

Mae’n bosib y gallech chi gael fisa gwaith drwy’ch cyflogwr – y categori mewn gwirionedd yw fisa ‘Haen 2 (Cyffredinol). Bydd rhaid i’ch swydd fod ar y ‘rhestr o brinder galwedigaethau’. Mae’r rhestr i'w gweld yn GOV.UK.

Gall y broses fod yn gymhleth ond mae’n un ffordd bosib o aros yn y DU, yn enwedig os ydych chi’n gweithio i sefydliad mawr. Y peth gorau i’w wneud yw siarad â’ch cyflogwr i weld a yw’n fodlon eich noddi.

Darllen mwy am fisâu Haen 2 (Cyffredinol) yn GOV.UK.

Bydd rhaid i chi aros yn eich swydd i gadw’r fisa hwn. Bydd angen i 5 mlynedd fynd heibio cyn y gallwch ymgartrefu ar eich pen eich hun hefyd. Felly'r peth gorau i’w wneud yw gweld a ydych yn gymwys i ymgartrefu cyn i chi geisio cael fisa drwy’ch cyflogwr.

Ffyrdd eraill o aros

Mae yna ffyrdd eraill o gael fisa os ydych chi wedi bod yn byw yn y DU am amser hir. Enw’r llwybrau hyn yw ‘bywyd preifat yn y DU’ er enghraifft:

  • os ydych chi wedi byw yn y DU am o leiaf 20 mlynedd yn ddi-dor

  • os ydych chi o dan 18 oed a’ch bod wedi byw yn y DU am o leiaf saith mlynedd yn ddi-dor

  • os ydych chi rhwng 18 a 24 oed, ac wedi treulio o leiaf hanner eich bywyd yn byw yn y DU yn ddi-dor

  • os ydych chi dros 18 oed ac nad oes gennych chi unrhyw gysylltiad â’r wlad y byddech chi’n dychwelyd iddi – mae hyn yn golygu nad oes gennych chi unrhyw gysylltiadau cymdeithasol, diwylliannol neu deuluol gyda’r wlad honno

Ni fydd unrhyw amser rydych chi wedi’i dreulio yn y carchar yn cyfrif at y cyfnodau uchod.

Y peth gorau i wneud yw siarad â chynghorydd mewnfudo arbenigol am aros yn y DU.

Darllenwch fwy am fisâu ‘bywyd preifat yn y DU’ yn GOV.UK.

Os ydych chi wedi dioddef trais domestig

Os mai trais domestig sydd wrth wraidd eich tor-perthynas, byddwch chi’n gallu gwneud cais i ymgartrefu yn y DU fel rheol (neu gael ‘caniatâd i aros am gyfnod amhenodol’).

Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n cael cyngor cyfreithiol arbenigol os ydych chi wedi dioddef trais domestig a’ch bod yn poeni y bydd gwahanu oddi wrth eich partner yn effeithio ar eich statws fisa. Efallai y byddwch chi’n gallu cael Cymorth Cyfreithiol i helpu i dalu am yr arbenigwr – bydd yn gallu rhoi cyngor i chi ar hyn.

Darllenwch fwy am help a chymorth y gallwch ei gael os ydych chi wedi dioddef trais neu gamdriniaeth.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 26 Medi 2019