Cael fisa ar gyfer eich partner i fyw yn y DU
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os ydych chi o’r UE, Norwy, y Swistir, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein
Fe ddylech chi a'ch partner wneud cais i Gynllun Setliad yr UE i aros yn y DU. Byddech angen wneud cais erbyn 31 Rhagfyr 2020. Bydd eich hawliau i fyw, gweithio ac astudio yn y DU yn newid ar ôl y dyddiad hwn.
Dim ond ar ôl cyrraedd y DU y gall eich partner wneud cais i'r cynllun.
Os yw'ch partner yn ddinesydd o'r UE, yr AEE neu'r Swistir
Nid oes angen fisa ar eich partner i ddod i mewn i'r DU. Dylent wneud cais i Gynllun Setliad yr UE pan fyddant yn y DU.
Os yw'ch partner yn ddinesydd o wlad y tu allan i'r UE, yr AEE neu'r Swistir
Bydd angen i'ch partner i wneud cais am drwydded deulu AEE ar GOV.UK i ddod i mewn i'r DU. Gwiriwch pa wledydd sydd yn yr Undeb Ewropeaidd ac Ardal Economaidd Ewrop ar GOV.UK os nad ydych yn siŵr.
Dylent wneud cais i Gynllun Setliad yr UE pan fyddant yn y DU.
Os oes gennych chi hawl i fyw yn y DU yn barhaol, gallwch chi wneud cais i’ch partner ddod i fyw gyda chi. Mae'n rhaid iddyn nhw fod yn naill ai:
eich gŵr, gwraig, partner sifil, darpar bartner sifil neu ddyweddi
partner rydych chi wedi cydfyw ag ef/hi am 2 flynedd o leiaf
Os ydych chi’n byw yn y DU ar eich fisa eich hun, bydd yn rhaid i’ch partner naill ai:
Os ydych chi’n ffoadur neu os oes gennych chi ddiogelwch dyngarol, bydd angen i’ch partner wneud cais am aduniad teulu ar GOV.UK.
Mae’r rheolau’n wahanol ar gyfer pob math gwahanol o bartner ond bydd yn rhaid i chi ddangos bob amser bod gennych chi ddigon o arian i’w cynnal nhw a phrofi bod eich perthynas yn ddilys.
Gall eich partner wneud cais o’r tu allan i’r DU. Gall wneud cais o’r tu mewn i’r DU hefyd cyn belled:
bod eich partner wedi cael caniatâd i aros yn y DU am fwy na 6 mis
nad yw yn y DU ar fisa ymweld
nad yw’n gwneud cais fel dyweddi
Os oedd fisa gwreiddiol eich partner am 6 mis neu lai, ni chaniateir i’ch partner newid i fisa partner tra bydd yn parhau yn y DU. Bydd angen i’ch partner adael y DU a gwneud cais i ddychwelyd fel partner.
Os yw eich partner neu eich dyweddi yn ymuno â chi yn y DU yn seiliedig ar eich hawl i aros yn y DU, y term a ddefnyddir ar eich cyfer yw ‘noddwr’.
Gwirio faint o gyflog sydd angen i chi ei gael
Mae angen i chi fod yn ennill cyfanswm penodol, neu fod â digon o gynilion, er mwyn dod â’ch partner i’r DU i fyw. Y term a ddefnyddir ar gyfer hyn yw ‘bodloni’r gofyniad ariannol’.
Does dim angen i chi fodloni’r gofyniad ariannol os oes gennych chi statws ffoadur neu ddiogelwch dyngarol.
Os ydych chi angen bodloni’r gofyniad ariannol, byddwch chi angen profi eich bod yn ennill isafswm incwm blynyddol (cyn treth). Mae’r cyfanswm yn dibynnu ar yr unigolyn rydych chi’n gwneud cais ar ei ran.
Os ydych chi’n dod â’ch partner a dim plant, byddwch chi angen incwm o £18,600 y flwyddyn o leiaf cyn treth.
Os yw eich partner yn dod â phlant gydag ef/hi, byddwch chi angen ennill £3,800 yn ychwanegol ar gyfer y plentyn cyntaf, a £2,400 yn ychwanegol ar gyfer pob plentyn wedi hynny. Does dim rhaid i chi dalu’r gost ychwanegol os ydych chi’n dod â phlant sy’n Brydeinig, sy’n wladolion yr AEE neu sy’n blant sydd â chaniatâd amhenodol i aros yn y DU.
Os ydych chi’n dod â phlant ac mae eich partner eisoes yn y DU, bydd angen i chi ddangos bod eich incwm yn £18,600 o hyd yn ogystal â’r symiau ychwanegol ar gyfer eich plant.
Gall eich incwm fod yn gyfuniad o:
enillion o gyflogaeth neu hunangyflogaeth – ond dim ond os ydych chi’n gweithio yn y DU
pensiwn
tâl mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu neu salwch
math arall o incwm fel incwm o rent neu gyfranddaliadau
Os yw eich incwm yn llai na’r hyn sydd ei angen arnoch chi, gallwch chi ddefnyddio cynilion arian parod er mwyn bodloni’r gofyniad ariannol. Byddwch angen £16,000 arnoch yn ogystal â £2.50 am bob £1 y mae eich incwm yn is na’r gofyniad ariannol. Mae’n rhaid i’r cynilion fod yn eich enw chi ers 6 mis neu ragor.
Mae Josh yn gwneud cais am fisa er mwyn dod â’i ŵr a’i blentyn i’r DU. Y gofyniad ariannol ar gyfer partner ac 1 plentyn yw £22,400.
Mae Josh yn ennill £15,700 y flwyddyn – mae ei incwm £6,700 yn is na’r gofyniad ariannol. Gall Josh ddefnyddio cynilion i fodloni’r gofyniad – mae angen £16,000 arno yn ogystal â £2.50 am bob £1 y mae ei incwm yn is na’r gofyniad ariannol. Mae’r cyfanswm ychwanegol yn 2.5 x £6,700 = £16,750
Fel cyfanswm, mae Josh angen £16,000 + £16,750 = £32,750.
Os yw eich partner yn gwneud cais o dramor, gall ei gynilion gyfrif tuag at y gofyniad ariannol ond ni fydd ei enillion. Os yw eich partner yn gweithio yn y DU ar hyn o bryd, bydd ei enillion yn cyfrif hefyd.
Os ydych chi’n gwneud cais am fisa dyweddi, ni fydd eich partner yn gallu gweithio yn y DU.
Darllenwch y manylion llawn ynghylch bodloni'r gofyniad ariannol ar GOV.UK. Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n bodloni’r gofyniad ariannol, dylech chi gael cymorth gan gynghorydd mewnfudo arbenigol.
Ni fydd angen i chi fodloni’r gofyniad ariannol hwn os ydych chi’n cael un neu ragor o’r budd-daliadau canlynol:
Lwfans Byw i’r Anabl
Lwfans Anabledd Difrifol
Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
Lwfans Gweini
Lwfans Gofalwr
Taliad Annibyniaeth Personol
Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog neu Daliad Incwm Gwarantedig dan Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog
Lwfans Gweini Cyson, Atodiad Symudedd neu Bensiwn Anabledd Rhyfel dan y Cynllun Pensiynau Rhyfel
Pensiwn Anafiadau’r Heddlu
Os ydych chi’n cael un o’r budd-daliadau hyn, yr oll sydd angen i chi ei wneud yw dangos eich bod yn derbyn digon o arian i ofalu am eich dibynyddion – y term am hyn yw ‘cynnal a chadw digonol’. Bydd yr union ffigur yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol. Bydd angen o leiaf £120 yn weddill bob wythnos arnoch chi wedi i chi dalu am eich cartref. Os oes gennych chi blant, byddwch chi angen mwy na hyn.
Ym mhob achos, mae’n rhaid i’r llety y byddwch chi’n ei rannu fod yn ‘ddigonol’ a bod â digon o le ar gyfer eich teulu.
Os yw eich partner o’r tu allan i’r AEE, ac yn gwneud cais am fisa i aros am fwy na 6 mis, bydd yn rhaid iddyn nhw dalu £400 y flwyddyn am ofal iechyd yn y DU, fel rhan o’u cais fisa. Y term am hyn yw’r Gordal Iechyd Mewnfudo.
Gallwch chi gael mwy o wybodaeth am y Gordal Iechyd Mewnfudo ar .GOV.UK.
Efallai bydd yn rhaid i’ch partner lwyddo mewn prawf iaith Saesneg a chael prawf meddygol i ddangos nad oes ganddo ef/hi Dwbercwlosis (TB) cyn gwneud cais. Gallwch chi gael mwy o wybodaeth am y prawf Saesneg neu gael mwy o wybodaeth am y prawf TB ar GOV.UK.
Os yw’ch partner mewn dyled i’r GIG
Bydd ei fisa yn cael ei wrthod yn awtomatig os oes ganddo ef/hi ddyled o £500 neu fwy.
Am ba hyd fydd y fisa yn para
Bydd fisa eich partner yn para am gyfnod gwahanol o amser yn ddibynnol ar eich amgylchiadau.
Os ydych chi’n briod, mewn partneriaeth sifil neu wedi cydfyw ers 2 flynedd a mwy
Bydd ei fisa yn para:
33 o fisoedd os yw’n gwneud cais o’r tu allan i’r DU
30 mis os yw’n gwneud cais o’r DU
Cyn i’w fisa ddod i ben, gall adnewyddu am 2 flynedd a 6 mis yn rhagor. Os yw’n adnewyddu, gall wneud cais i sefydlu yn y DU ar ôl cyfanswm o 5 mlynedd.
Os ydych chi’n gwneud cais ar ran eich dyweddi
Bydd y fisa yn para am 6 mis – mae'n rhaid iddo/iddi eich priodi chi neu ddod yn bartner sifil i chi cyn i’r cyfnod hwn ddod i ben os yw am barhau yn y DU.
Yna gall wneud cais fel eich partner am ganiatâd i aros am 2 flynedd a 6 mis. Ar ddiwedd y cyfnod hwn, gall ei ymestyn eto ar gyfer yr un cyfnod o amser.
Os yw’n bodloni gofynion y fisas hyn, gall wneud cais i sefydlu yn y DU wedi cyfanswm o 5 mlynedd.
Os ydych chi’n llenwi’r ffurflen ar ran eich partner
Gallwch chi lenwi’r ffurflen gais ar ran eich partner – mae’n rhaid i chi wneud hyn ar-lein gan ddefnyddio’r dolenni uchod. Mae’n rhaid i’r cais fod yn ei enw ef/hi, nid eich enw chi.
Dyw’r system ar-lein ar gyfer gwneud cais ddim yn rhestru’r fisas yn ôl enw – bydd yn rhaid i chi ateb cwestiynau er mwyn dod o’r hyd i’r fisa rydych chi ei hangen. Mae yna opsiwn i “wneud cais ar ran rhywun arall” ar y ffurflen ar-lein.
Fel rhan o’r broses ymgeisio, mae’n rhaid i’ch partner gyflwyno gwybodaeth fiometrig (olion bysedd a ffotograff). Gwiriwch ym mhle mae’r ganolfan agosaf ar gyfer gwneud cais am fisa cyn gwneud cais, oherwydd gall fod mewn gwlad wahanol.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybodaeth eich partner ar gyfer manylion yr ymgeisydd.
Cynnwys y dystiolaeth gywir
Y rheswm mwyaf cyffredin y mae cais am fisa yn cael ei wrthod yw oherwydd nad oes digon o dystiolaeth (dogfennau sy’n profi eich achos) yn cael eu hanfon gyda’r cais.
Yn gyffredinol, bydd angen i chi ddarparu darn o dystiolaeth i gefnogi popeth rydych chi’n ei ddweud yn y cais. Bydd yn rhaid i bob dogfen fod yn yr union fformat y mae’r cais yn gofyn amdano. Cael gwybod mwy am yr wybodaeth byddwch chi angen ei rhoi ar GOV.UK.
Profi eich bod mewn perthynas ddilys
Bydd angen i chi darparu tystiolaeth eich bod mewn perthynas ddilys a pharhaus. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys dogfennau sy’n dangos y canlynol:
eich bod wedi cyd-fyw
bod gennych chi blant gyda’ch gilydd
eich bod wedi rhannu cyfrif banc neu gynilion
eich bod wedi treulio amser gyda’ch gilydd a’ch bod mewn cysylltiad rheolaidd
Gwneud eich cais
Bydd yn rhaid i chi neu eich partner wneud cais ar-lein ac yna bydd angen iddo/iddi wneud apwyntiad mewn canolfan ceisiadau fisa. Gallwch chi ddod o hyd i'r ganolfan ceisiadau fisa agosafa ar GOV.UK.
Yna bydd yn rhaid i’ch partner gyflwyno ei holl ddogfennau a thystiolaeth fel y gellir prosesu’r cais.
Bydd yr union fisa y mae eich partner ei hangen yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Bydd angen i’ch partner wneud cais am fisa teulu ar GOV.UK os ydych chi’n:
ddinesydd Prydeinig
unigolyn sydd wedi ‘sefydlu’ yn y DU (mae gennych chi ‘ganiatâd amhenodol i aros’)
priodi neu’n ymrwymo i bartneriaeth sifil yn y DU ac mae’r ddau ohonoch chi’n bwriadu byw yn y DU
Os ydych chi’n wladolyn yr AEE sy’n byw yn y DU a dyw eich partner ddim o’r AEE, bydd angen iddo wneud cais am drwydded teulu AEE ar GOV.UK.
Os yw eich cais yn cael ei wrthod
Gallwch chi apelio, ond dim ond os gallwch chi brofi bod y penderfyniad yn ei gwneud yn amhosibl i chi fod gyda’ch gilydd. Mae’n anodd iawn apelio a gall gymryd llawer iawn o amser – dylech chi ystyried cael cymorth gan gynghorydd mewnfudo arbenigol. Gallwch chi:
cysylltu â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol am gymorth i ddod o hyd i rywun yn eich ardal
Os yw eich cais yn cael ei dderbyn
Bydd eich partner yn cael trwydded sy’n ei alluogi i ddod i’r DU am gyfnod o 30 diwrnod.
Unwaith y bydd yn cyrraedd, bydd yn rhaid iddo/iddi gasglu trwydded preswylio biometrig (BRP) o fewn 10 diwrnod.
Bydd yn cael llythyr sy’n rhoi gwybod iddo/iddi ym mhle i gasglu’r BRP. Mae’n bwysig ei fod yn ei gasglu o fewn 10 diwrnod – efallai bydd yn cael dirwy neu bydd ei fisa yn cael ei chanslo os nad yw’n gwneud hynny.
Os ydych chi’n cael unrhyw broblemau gallwch chi gael gwybod mwy am drwyddedau BRP ar GOV.UK.
Os nad yw eich partner yn cyrraedd y DU o fewn cyfnod y 30 diwrnod, bydd angen iddo/iddi wneud cais am drwydded mynediad 30 diwrnod arall. Bydd yn rhaid iddyn nhw dalu ffi am hon.
Os yw eich partner yn cyrraedd ar fisa dyweddi
Mae’n well os nad ydyn nhw’n gadael y DU tan y byddwch chi wedi priodi neu wedi ymrwymo i bartneriaeth sifil. Os ydyn nhw’n gadael ac yn dychwelyd, bydd angen iddyn nhw gael cliriad mynediad o’r newydd ac mae yna siawns bob amser y bydd yn cael ei wrthod.
Os na all eich priodas neu eich partneriaeth sifil ddigwydd yn ystod y fisa 6 mis, gallwch chi wneud cais am estyniad. Bydd yn rhaid i chi egluro pam nad yw’r seremoni wedi digwydd eto a rhoi tystiolaeth er mwyn profi y bydd yn digwydd cyn bo hir. Dylech chi gael cymorth gan arbenigwr mewnfudo gyda hyn.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 11 Gorffennaf 2022