Cael cyngor mewnfudo
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth lleol os hoffech chi siarad â rhywun yn uniongyrchol am broblem fewnfudo. Mae'n bwysig cael cymorth yn gynnar os nad ydych chi'n siŵr beth i'w wneud.
Cael cymorth am ddim gan Cyngor ar Bopeth
Gallwch chi gael cymorth cyfrinachol am ddim gan eich Cyngor ar Bopeth lleol ynghylch:
cymhwystra i gael fisa a cheisiadau am fisa – yn cynnwys cyngor ar lenwi ffurflenni (er mae’n bosib na fyddant yn gallu llenwi’r ffurflen ar eich rhan
cysylltu â’r Swyddfa Gartref ynghylch unrhyw oedi
cael dogfennau mewnfudo newydd
problemau gyda dod i’r DU neu aros yn y DU, e.e. ceisiadau am gliriad i ddod i mewn, caniatâd i ddod i mewn, caniatâd i aros neu drwyddedau preswylio
dod yn ddinesydd Prydeinig
Gall eich Cyngor ar Bopeth lleol helpu gyda phroblemau mwy cymhleth hefyd o bosib – yn dibynnu ar a oes arbenigwr ar fewnfudo yno. Gofynnwch wrth gysylltu.
Os yw’ch sefyllfa’n fwy cymhleth
Os yw’ch sefyllfa’n fwy cymhleth, efallai y bydd angen i chi dalu am gyngor arbenigol gan gynghorydd mewnfudo proffesiynol neu gyfreithiwr. Er enghraifft, os ydych chi’n gwneud cais i’ch teulu ymuno â chi yn y DU neu os ydych chi’n gwahanu oddi wrth eich partner.
Cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth lleol am argymhelliad – neu gallwch chwilio am gynghorydd mewnfudo neu gyfreithiwr yn eich ardal chi eich hun.
Mae angen i chi wneud yn siŵr bod arbenigwr mewnfudo wedi cofrestru gydag OISC (Swyddfa’r Comisiynydd Gwasanaethau Mewnfudo) cyn gofyn am ei gyngor.
Rhaid i bob arbenigwr fod wedi’i gofrestru gydag OISC – os nad yw, ni fydd ganddo’r wybodaeth orau i’ch cynghori chi (ond bydd dal angen i chi dalu).
Cael cymorth cyfreithiol (help cyfreithiol am ddim)
Os ydych chi ar incwm isel, gallech gael cymorth cyfreithiol os ydych chi’n:
dioddef trais domestig
dioddefwr masnach pobl
gwneud cais am gymorth lloches
Gwiriwch os ydych chi'n gymwys yn ariannol yn GOV.UK.
Gofalwch fod gan y cynghorydd a ddewiswch gyllid cymorth cyfreithiol. Os ydych chi’n dewis cynghorydd heb gyllid cymorth cyfreithiol, gallech wario miloedd o bunnoedd heb eisiau.
Cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth lleol os hoffech chi siarad â rhywun yn uniongyrchol am broblem fewnfudo. Mae’n bwysig cael cymorth yn gynnar os nad ydych chi’n siŵr beth i’w wneud.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 28 Gorffennaf 2019