Os ydych chi’n mynd i gael eich allgludo o’r DU
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os ydych chi wedi torri’r rheolau mewnfudo, er enghraifft, drwy fyw yn y DU yn anghyfreithlon, gall y Swyddfa Gartref eich gorfodi i adael. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn galw hyn yn allgludo, ond y term technegol yw ‘administrative removal’.
Byddwch yn cael cyfle i roi tystiolaeth y dylech gael aros yn y DU.
Os caiff eich tystiolaeth ei gwrthod gallwch:
apelio (os oes gennych chi hawliau apelio – bydd y wybodaeth hon ar eich llythyr oddi wrth y Swyddfa Gartref)
dewis gadael
Os nad yw’ch apêl yn debygol o lwyddo dylech adael o’ch gwirfodd, oherwydd byddwch yn cael eich gwahardd o’r DU am 10 mlynedd os cewch eich allgludo.
Os byddwch chi’n dewis gadael gallwch chi ddychwelyd i’r DU ymhen rhwng 1 a 5 mlynedd, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Darparu tystiolaeth
Os yw’r Swyddfa Gartref eisiau’ch allgludo chi, byddant yn ysgrifennu atoch i ddweud hynny. Gallwch ymateb i’w llythyr gyda rhesymau pam ddylech chi gael aros yn y DU. Bydd y llythyr yn esbonio sut mae gwneud hyn a’r dyddiad cau.
Bydd arbenigwr mewnfudo yn eich helpu i ymateb gyda rhesymau y bydd y Swyddfa Gartref yn eu derbyn, er enghraifft:
os oes gennych chi gysylltiadau cryf a theulu yn y DU (byddai’ch allgludo yn mynd yn groes i’ch hawliau dynol)
os byddai dychwelyd i’ch gwlad gartref yn beryglus (gallwch wneud cais am loches)
Byddwch chi naill ai’n cael aros yn y DU, neu bydd y Swyddfa Gartref yn dechrau’r broses o’ch allgludo.
Os yw’ch dadl dros aros yn y DU yn cael ei gwrthod
Bydd y Swyddfa Gartref yn anfon llythyr atoch gyda gwybodaeth am adael y DU. Bydd yn dweud wrthych a allwch chi apelio ai peidio.
Os na allwch chi apelio
Os na allwch chi apelio, eich unig ddewis yw mynd â’ch achos i adolygiad barnwrol. Bydd angen i chi wneud hyn o fewn 3 mis o gael penderfyniad.
Nid yw adolygiadau barnwrol yn opsiwn da i’r rhan fwyaf o bobl oherwydd:
dim ond os gwnaed camgymeriad cyfreithiol neu weinyddol maen nhw’n llwyddo, ac nid yw camgymeriad o’r fath yn codi’n aml
nid pawb sy’n cael gwneud un – barnwr sy’n penderfynu
Nid yw camgymeriadau’n digwydd yn aml iawn felly mae’n well gadael yn wirfoddol, oni bai bod eich cynghorydd cyfreithiol o’r farn bod gennych chi siawns da o lwyddo.
Os gallwch chi apelio
Bydd apêl yn llwyddo:
os oes gennych chi gysylltiadau cryf a theulu yn y DU
os yw’r penderfyniad gwreiddiol yn gwahaniaethu’n hiliol yn eich erbyn
os na fyddai’n ddiogel i chi ddychwelyd i’ch gwlad gartref
os yw’r penderfyniad yn torri’r gyfraith neu reolau mewnfudo
Bydd cynghorydd mewnfudo arbenigol yn gallu penderfynu a yw unrhyw un o’r ffactorau hyn yn berthnasol i chi.
Gallwch adael yn wirfoddol o hyd os yw’ch apêl yn methu.
Gallwch gysylltu â'ch AS am gymorth os byddwch chi’n penderfynu apelio.
Gall:
drefnu i’ch achos gael ei ystyried eto os ydych chi o’r farn y gwnaed camgymeriad
gofyn i’r Swyddfa Gartref edrych ar eich apêl yn gyflym
Gallwch apelio eto os bydd eich apêl gyntaf yn methu, a gofyn am adolygiad barnwrol. Bydd cynghorydd mewnfudo arbenigol yn dweud wrthych chi a allai apêl arall neu adolygiad barnwrol lwyddo.
Os yw’ch sefyllfa’n newid a bod gennych chi dystiolaeth newydd yn dangos y dylech chi gael aros yn y DU, mae’n bosib y gallwch chi wneud apêl newydd.
Pan na allwch chi wneud rhagor o apelau ac nad ydych chi’n gadael o’ch gwirfodd, byddwch yn cael eich allgludo. Chewch chi ddim gwneud cais i ddychwelyd i’r DU am 10 mlynedd.
Os byddwch chi’n gadael y DU yn wirfoddol
Os byddwch chi’n talu am eich taith adref, gallwch wneud cais i ddychwelyd i’r DU ymhen blwyddyn.
Dylech ddweud wrth y Swyddfa Gartref yn ysgrifenedig eich bod chi’n bwriadu gadael.
Gallwch gael cymorth gan y llywodraeth os na allwch chi dalu am eich taith adref. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gallech fod yn gymwys i gael:
'ymadawiad gwirfoddol/voluntary departure' – byddwch yn cael cymorth i helpu i drefnu eich taith a thalu amdani
'dychweliadau gwirfoddol â chymorth/assisted voluntary returns' – byddwch yn cael cymorth i drefnu’ch taith a thalu amdani, ac adeiladu bywyd yn y wlad rydych chi’n dychwelyd iddi
Gallwch wneud cais i ddychwelyd i’r DU:
ymhen 2 flynedd os ydych chi’n gadael o fewn 6 mis o gael eich gorchymyn i adael
ymhen 5 mlynedd os yw’n cymryd mwy na 6 mis i chi adael
Ymadawiadau Gwirfoddol a Dychweliadau Gwirfoddol â Chymorth
Ffôn: 0300 004 0202
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am to 5.30pm
Mae galwadau’n costio hyd at 12c y funud o linell dir, 3c i 45c o ffonau symudol
Cael eich allgludo o’r DU
Chewch chi ddim o’ch allgludo ar unwaith – mae’n cymryd ychydig o amser i’r Swyddfa Gartref drefnu’ch dogfennau. Yn ystod yr amser hwn bydd rhaid i chi ymweld â chanolfan adrodd mewnfudo – bob pythefnos neu unwaith y mis gan amlaf.
Cael eich cadw’n gaeth
Ni fyddwch yn cael eich rhoi mewn canolfan gadw nes eich bod chi ar fin cael eich allgludo, oni bai bod y Swyddfa Gartref o’r farn y gallech chi geisio osgoi cael eich allgludo.
Mae’n debyg iawn y cewch chi’ch cymryd i ganolfan gadw pan fyddwch chi’n ymweld â’r ganolfan adrodd, ond gall ddigwydd unrhyw bryd. Os oes gennych chi blant, byddant yn cael eu cadw gyda chi, felly mae’n bwysig eu paratoi nhw.
Pan fyddwch chi yn y ganolfan gadw, chewch chi ddim o’ch allgludo am o leiaf 72 awr.
Dylech gael gwybodaeth yn eich iaith eich hun yn egluro’ch hawliau pan fyddwch chi yno. Os na chewch chi’r wybodaeth hon, dylech ofyn amdani.
Bydd y wybodaeth yn egluro’ch hawliau pan fyddwch chi yn y ganolfan gadw, e.e. gallwch chi:
gael ymwelwyr, post a galwadau ffôn
gwneud cais am fechnïaeth
cadw’ch eiddo personol
cyfathrebu â’r byd tu allan – er enghraifft, i ddweud wrth bobl yn eich gwlad gartref y gallech fod yn dychwelyd
byw mewn llety gyda’ch teulu, os ydynt yn cael eu cadw gyda chi
Gallwch ofyn am gael gweld cynghorydd cyfreithiol pan fyddwch chi yn y ganolfan gadw. Bydd yn eich helpu i wneud cais am fechnïaeth a gwneud mwy o apelau os oes gwybodaeth newydd am eich sefyllfa.
Os penderfynwch chi osgoi cael eich allgludo
Mae cuddio rhag y Swyddfa Gartref yn anghyfreithlon. Bydd bywyd yn anodd os ydych chi’n gwneud hynny oherwydd:
bydd rhaid i chi adael y DU os bydd y Swyddfa Gartref yn dod o hyd i chi
chewch chi ddim gweithio yn y DU yn gyfreithlon
chewch chi ddim agor cyfrif banc na rhentu tŷ
bydd hi’n anodd i chi fyw yn y DU yn gyfreithlon yn y dyfodol
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 03 Medi 2019