Paratoi am gyfweliad lloches
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae’r cyfweliad lloches (neu ‘substantive interview’) yn gam pwysig yn eich cais am statws ffoadur - mae’n gyfle i chi gyflwyno’ch achos i rywun o’r Swyddfa Gartref. Byddant yn gwneud penderfyniad ar sail yr hyn rydych chi’n ei ddweud.
Bydd eich cyfweliad yn digwydd rywbryd ar ôl i chi gael eich ‘sgrinio’ – gall ddigwydd o fewn yr wythnos neu gallwch aros am flwyddyn neu hyd oed yn hirach. Bydd y Swyddfa Gartref yn anfon llythyr atoch yn dweud pryd fydd eich cyfweliad.
Mae’n bwysig iawn i chi gael cyngor gan arbenigwr mewnfudo cyn eich cyfweliad. Mae’ch achos yn fwy tebygol o lwyddo os yw’r dystiolaeth sydd gennych yn cael ei pharatoi’n gywir – mae’n anodd gwneud hyn ar eich pen eich hun.
Fel ceisiwr lloches, gallech gael cymorth cyfreithiol (yn dibynnu ar eich cynilion a’ch incwm). Os ydych chi’n cael cymorth cyfreithiol, ni fydd rhaid i chi dalu am gyngor cyfreithiol. Os ydych chi’n gymwys, peidiwch â gadael i unrhyw un godi ffi arnoch - byddwch yn gwario arian heb eisiau.
Cyn y cyfweliad
Dylech ofyn am i’r cyfweliad gael ei recordio. Rhaid i chi wneud hyn o leiaf 24 awr cyn y cyfweliad.
Mae’n syniad da, rhag ofn:
i’r cyfieithydd wneud camgymeriad
nad ydych chi’n siŵr a wnaethoch chi sôn am rywbeth
Bydd eich llythyr cyfweliad yn dweud wrthych sut mae gwneud hyn, neu gallwch gysylltu â'ch Cyngor ar Bopeth lleol os ydych chi angen help.
Gallwch ofyn am gyfwelydd gwryw neu fenyw hefyd (a chyfieithydd, os ydych chi angen un) – gwnewch beth bynnag sy’n eich gwneud chi’n fwyaf cysurus.
Anfon datganiad ysgrifenedig
Mae’n syniad da anfon datganiad ysgrifenedig i gefnogi’ch cais cyn eich cyfweliad – does dim ots a oes gennych chi gyfreithiwr. Mae’n gyfle i chi ddweud mwy am eich cefndir wrth y Swyddfa Gartref cyn y cyfweliad.
Bydd eich llythyr cyfweliad yn dweud wrthych sut mae anfon y datganiad. Dylech chi gynnwys:
pam mae ofn arnoch chi ddychwelyd i’ch gwlad gartref
beth ddigwyddodd i chi (a phryd)
Gofalwch fod popeth rydych chi’n ei ddweud yn cyd-fynd â’r hyn ddywedoch chi yn eich cyfweliad sgrinio – gallai’r Swyddfa Gartref ei ddefnyddio yn eich erbyn os na fydd popeth rydych chi’n ei ddweud yn gyson.
Cynlluniau teithio
Bydd rhaid i chi deithio i’ch cyfweliad - maen nhw’n cael eu cynnal mewn dinasoedd mawr fel Belfast, Llundain, Leeds a Lerpwl.
Os ydych chi’n cael Cymorth Lloches, dylech gael tocyn teithio. Efallai na fydd yn cyrraedd tan y diwrnod cyn eich cyfweliad. Os nad yw’n cyrraedd, ffoniwch y rhif ar eich llythyr cyfweliad.
Os oes gennych chi blant bach
Os oes gennych chi blant bach, gallent dynnu sylw’ch cyfwelydd – hyd yn oed os ydych chi’n ymgeisio ar eu rhan.
Ceisiwch gael ffrind i ofalu am eich plant – os na allwch chi wneud trefniadau, ffoniwch y rhif ar eich llythyr cyfweliad. Byddant naill ai’n:
trefnu dyddiad newydd pan fyddwch chi’n gallu trefnu gofal plant
dod o hyd i ofal plant i chi sy’n agos i’r cyfweliad
Beth i fynd gyda chi
Ni all eich cyfweliad fynd yn ei flaen os na fyddwch chi’n mynd â phob un o’r rhain gyda chi (neu ba ddogfennau bynnag sydd gennych chi):
eich cerdyn cofrestru cais (ARC)
eich pasbort neu ddogfen deithio
tystysgrif gofrestru’r heddlu
tystysgrif geni
tystiolaeth o ble rydych chi’n byw – er enghraifft, bil dŵr/trydan/nwy
Yn y cyfweliad
Y cyfweliad yw’ch cyfle i siarad am bopeth sydd wedi arwain at eich cais am loches. Mae’n siŵr y bydd yn brofiad emosiynol i chi, ond mae’n bwysig bod yn onest bob amser.
Nid oes hyd penodol ar gyfer y cyfweliad – gallai bara rhai oriau.
Os gwnaethoch chi anfon datganiad ysgrifenedig o flaen llaw, bydd y cwestiynau’n seiliedig ar y wybodaeth roesoch chi. Dylech chi ddisgwyl i’r cyfwelydd ofyn cwestiynau ynghylch y canlynol hefyd:
pam i chi adael eich gwlad gartref
pam mae’ch gwlad gartref yn beryglus i chi
sut daethoch chi i’r DU
pryd ddaethoch chi i’r DU
Allwch chi ddim mynd ag unrhyw un arall i’r cyfweliad (e.e. ffrind neu aelod o’r teulu). Dim ond chi, y cyfwelydd a’r cyfieithydd (os oes gennych chi un) fydd yno.
Os nad ydych chi’n gwybod sut mae ateb cwestiwn
Mae’n iawn dweud wrth y cyfwelydd nad ydych chi’n gwybod ateb i gwestiwn – mae’n well dweud “dydw i ddim yn gwybod” yn hytrach na dyfalu. Neu os oes rhywbeth nad ydych chi’n gyfforddus yn ei ateb, gallwch ddweud nad ydych chi am ateb.
Gofynnwch am egwyl os ydych chi angen un – dylai’r cyfwelydd ddeall.
Ar ôl y cyfweliad
Mae gennych chi 5 diwrnod ar ôl y cyfweliad i gyflwyno datganiad (neu ‘gyflwyno sylwadau’) – gallwch sôn am unrhyw beth na wnaethoch chi sôn amdano yn ystod y cyfweliad. Byddwch yn cael manylion ynghylch sut mae gwneud hyn ar ôl y cyfweliad.
I wneud eich datganiad, dilynwch y camau canlynol:
Gwrandewch ar y recordiad o’r cyfweliad, os oes gennych chi un.
Gwiriwch na chafodd unrhyw beth ei gamddehongli (e.e. gan gyfieithydd).
Meddyliwch am bopeth roeddech chi eisiau sôn amdano ar y diwrnod – a gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi trafod unrhyw beth a fyddai’n helpu’ch achos.
Dylech gynnwys unrhyw beth gafodd ei hepgor yn y datganiad.
Byddwch yn cael gwybod ble i anfon y datganiad ar ddiwrnod y cyfweliad.
Beth sy’n digwydd nesaf
Byddwch yn cael llythyr yn y post gan y Swyddfa Gartref. Os na fyddwch chi’n clywed unrhyw beth o fewn y 30 diwrnod cyntaf, rydych chi’n annhebygol o glywed am 6 mis arall (neu fwy) - er bydd y Swyddfa Gartref yn dweud wrthych fod ganddynt darged o 30 diwrnod.
Os oes gennych chi arbenigwr (neu gyfreithiwr), dylai fod yn ysgrifennu i’r Swyddfa Gartref bob 3 mis. Gofynnwch iddo gysylltu â’r Swyddfa Gartref yn rheolaidd os nad yw’n gwneud hyn yn barod.
Mae gennych chi hawl i Gymorth Lloches (tŷ a budd-dal lles) nes i chi gael eich penderfyniad. Chewch chi ddim o’ch allgludo tra byddwch chi’n aros am eich penderfyniad.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 27 Medi 2019