Advicelink Cymru
Mae Advicelink Cymru yn wasanaeth Cyngor ar Bopeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd wedi’i gynllunio i helpu’r bobl sydd â’r angen mwyaf am wasanaethau cynghori, yn enwedig y rhai na fyddent fel arfer yn ceisio cyngor.
Yn 2020, helpodd Advicelink Cymru bron i 62,000 o bobl gyda dros 264,000 o broblemau. Yn gyfan gwbl, dywedodd mwy na 9 o bob 10 o gleientiaid fod y gwasanaeth wedi eu helpu i ddod o hyd i ffordd ymlaen a byddai mwy na 9 o bob 10 yn argymell y gwasanaeth i bobl eraill.
Mae Advicelink Cymru yn cynnig cyngor gyda sicrwydd ansawdd ar fudd-daliadau lles, dyled, cyflogaeth, addysg, tai, mewnfudo a gwahaniaethu. Nod y gwasanaeth yw helpu pobl i gael mynediad at y cyngor cywir, ar yr amser cywir a'i gwneud yn haws iddynt gael mynediad at wasanaethau eto os oes angen cymorth pellach - boed hynny’n ymwneud â’r un mater neu rywbeth newydd.
Nod gwasanaeth Advicelink Cymru yw:
estyn allan at gleientiaid yn rhagweithiol, yn aml trwy bartneriaid, i gael ymyriadau gwasanaeth cynghori i’r rhai sydd eu hangen fwyaf cyn iddynt fod mewn argyfwng
gweithio'n ddi-dor fel bod taith y cleient mor syml â phosibl
darparu gwasanaethau rhanbarthol gyda chysondeb cenedlaethol
darparu cyngor gyda sicrwydd ansawdd gyda chefnogaeth cofleidiol i gleientiaid gan bartneriaid. Gallai cymorth partner fod yn ymarferol, emosiynol, clinigol neu gymdeithasol
Gall pobl yng Nghymru gael mynediad at y gwasanaeth o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm trwy ein rhif Advicelink Cymru: 0800 702 2020.
Relay UK — os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio’r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 08082 505 720.
Gall pobl yng Nghymru gysylltu â'n llinell gymorth Cyflogaeth a Gwahaniaethu Arbenigol
Gallwch gysylltu â'n llinell gymorth Cyflogaeth a Gwahaniaethu Arbenigol os oes gennych broblem yn y gwaith a/neu'n meddwl eich bod yn profi triniaeth annheg neu wahaniaethu ac yn poeni am eich hawliau a'r hyn y gallwch ei wneud ar 0808 278 7921. Mae galwadau am ddim ac mae'r llinellau ar agor 9am - 5pm ac eithrio gwyliau banc
Am gyngor os oes gennych ôl-ddyledion rhent ac yn denant yn y sector rhentu preifat
Gallwch gysylltu â'n Llinell Gymorth Dyled yn y Sector Rhentu Preifat i gael cyngor ar wneud y mwyaf o incwm, rheoli dyled a chael cymorth i'ch helpu i drafod gyda'ch landlord ar radffôn 0808 278 7920. Mae'r llinellau ar agor 9am - 5pm ac eithrio gwyliau banc
Dull partneriaeth
Mae Advicelink Cymru yn cael ei reoli gan Gyngor ar Bopeth Cymru. Mae cyllid yn cael ei is-roi i swyddfeydd Cyngor ar Bopeth lleol unigol ac ystod eang o bartneriaid lleol a chenedlaethol, sy'n darparu gwasanaethau cynghori.
Yn ogystal â phartneriaid cyngor mae ein partneriaid mynediad yn arbenigwyr mewn ymgysylltu â grwpiau a chymunedau penodol ledled Cymru. Maent yn ein helpu i gyrraedd y bobl sydd angen ein gwasanaethau fwyaf ac yn darparu gwasanaethau cymorth emosiynol, clinigol a chymdeithasol cofleidiol.
Dysgwch fwy am waith ein partneriaid yma:
Gwybodaeth bellach
Gyda’n rhwydwaith o bartneriaid cyngor, byddwn yn rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o gyrraedd pobl nad ydynt wedi cael cyngor o’r blaen neu sydd ag anghenion cyngor penodol, a byddwn yn dysgu wrth fynd ymlaen. Rydym yn ymgysylltu â phartneriaid newydd yn raddol dros amser a byddwn yn diweddaru'r dudalen hon wrth i sefydliadau newydd ymuno.
Dysgwch fwy am y gwasanaeth trwy lawrlwytho adroddiad ar yr effaith rydym yn ei chael yng Nghymru.