Cael help os ydych chi’n cael trafferth yn talu’ch biliau

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae pethau y gallwch eu gwneud os ydych chi'n cael trafferth talu'ch biliau - er enghraifft, eich biliau ynni, eich rhent a'ch treth gyngor.

Os oes arnoch chi arian a’ch bod yn cael trafferth talu 

Dylech siarad â’r sefydliadau y mae arnoch chi arian iddynt – efallai y byddant yn gadael i chi dalu symiau llai neu gymryd seibiant o daliadau.

Peidiwch ag anwybyddu biliau neu lythyrau am arian sy’n ddyledus gennych.

Gallwch gael gwybod sut i ddechrau delio â'ch dyledion.

Gwirio a allwch chi gael help neu arian ychwanegol

Efallai y gallwch hawlio budd-daliadau neu gynyddu eich budd-daliadau cyfredol os:

  • ydych chi yn ei chael yn anodd fforddio pethau hanfodol – fel bwyd a chartref

  • ydych chi yn sâl neu'n anabl

  • nad ydych yn gweithio

  • ydych yn gweithio ac ar incwm isel

  • ydych chi’n bensiynwr ar incwm isel

  • ydych chi’n ofalwr

  • ydych yn gyfrifol am blant

Mae'n bwysig gwirio a allwch chi gael cymorth neu gefnogaeth ychwanegol, hyd yn oed os ydych chi'n gweithio.

Gwiriwch pa fudd-daliadau y gallwch eu cael.

Gwirio pa gymorth y gallwch ei gael gan eich cyngor lleol

Gallwch gysylltu â'ch cyngor lleol - efallai y byddan nhw'n eich helpu i dalu am bethau fel:

  • eich biliau ynni a dŵr

  • bwyd

  • eitemau hanfodol - er enghraifft, dillad neu bopty

Gelwir y cymorth hwn yn 'gymorth lles' neu'n 'Gronfa Cymorth i'r Cartref'. Mae pob cyngor yn rhedeg ei gynllun ei hun. Mae’r cymorth maen nhw’n ei gynnig a phwy sy’n gallu ei gael yn amrywio. 

Gofynnwch i'ch cyngor lleol a ydynt yn rhedeg cynllun cymorth lles neu Gronfa Cymorth i'r Cartref. Gallwch gael gwybod sut mae cysylltu â’ch cyngor lleol ar GOV.UK. Does dim rhaid i chi fod yn cael budd-daliadau i gael help gan eich cyngor lleol. Os ydych chi'n cael budd-daliadau, ni fydd hyn yn effeithio arnynt os byddwch chi'n dechrau cael arian o gynllun cymorth lles neu gynllun Cronfa Cymorth i'r Cartref.

Gwirio pa gymorth y gallwch ei gael i dalu biliau

Cysylltwch â’r sefydliadau neu’r bobl y mae arnoch chi arian iddynt. Efallai y byddan nhw’n cytuno i helpu drwy wneud pethau fel:

  • lleihau eich taliadau

  • rhoi mwy o amser i chi dalu

Mae pob sefydliad yn wahanol felly mae'n bwysig holi pa gymorth y gallech ei gael.

Os ydych chi wedi benthyg arian ac yn cael trafferth gyda chostau byw, gofynnwch i'ch benthyciwr am gymorth. Dylent:

  • roi cyngor i chi ar sail eich sefyllfa unigol

  • gostwng ffioedd a thaliadau

Dylech ddechrau drwy geisio datrys problemau gyda’ch biliau ynni, y dreth gyngor neu gostau tai. Mae’r rhain yn fwy brys na phethau fel cardiau credyd neu fenthyciadau.

Cael help gyda’ch biliau ynni

Ar ôl 1 Gorffennaf 2023, ni fydd y Gwarant Pris Ynni yn berthnasol i’r rhan fwyaf o dariffau. Y rheswm am hyn yw y bydd y ‘Cap Prisiau Ynni’ yn rhatach.

Gwiriwch sut gallai eich biliau newid ar ôl 1 Gorffennaf 2023.

Os ydych chi’n dal i gael trafferth talu eich biliau, dylech gysylltu â’ch cyflenwr ynni. Mae'n rhaid i'ch cyflenwr eich helpu i ddod o hyd i ddatrysiad. Siaradwch â nhw am gynllun talu sy'n gweithio i chi - mae hyn yn golygu gwneud taliadau y gallwch eu fforddio dros gyfnod penodol o amser.

Rhagor o wybodaeth am gytuno ar gynllun talu.

Os na fyddwch yn ceisio cytuno ar gynllun gyda’ch cyflenwr, efallai y byddant yn bygwth eich datgysylltu.

Gwiriwch i weld beth i’w wneud os ydych chi wedi cael gwybod y bydd eich cyflenwad ynni’n cael ei ddatgysylltu.

Os oes gennych chi fesurydd talu ymlaen llaw a nid ydych yn ychwanegu ato 

Efallai y bydd eich cyflenwad ynni yn dod i ben.

Gwiriwch beth y dylech ei wneud os na allwch fforddio ychwanegu at eich mesurydd talu ymlaen llaw.

Gwirio a allwch chi wneud cais am grantiau a chynlluniau 

Efallai y gallwch gael help i dalu'ch biliau - gwiriwch pa grantiau a chynlluniau sydd ar gael.

Gwiriwch i weld a allwch chi wneud cais am grantiau a chynlluniau i helpu gyda chost eich biliau ynni.

Os ydych chi'n anabl

Efallai y gallwch gael help gyda'ch biliau ynni. Gallwch wirio sut mae cael cyngor am ddim am reoli eich biliau ynni ar wefan Scope.

Os ydych chi’n defnyddio crynodydd ocsigen, gallwch gael arian yn ôl am y trydan mae’n ei ddefnyddio. Gelwir hyn yn 'ad-daliad'. 

Os nad yw eich ad-daliad wedi'i drefnu, cysylltwch â chyflenwr eich crynodydd.

Cael help i dalu eich rhent

Os na allwch dalu eich rhent, esboniwch y sefyllfa i'ch landlord ar unwaith. Efallai y byddant yn rhoi mwy o amser i chi dalu. 

Efallai y gallwch gael budd-daliadau i'ch helpu gyda'ch rhent, er enghraifft Credyd Cynhwysol neu Fudd-dal Tai. Fel arfer, byddwch yn cael Credyd Cynhwysol os ydych chi dan oed Pensiwn y Wladwriaeth. Fel arfer, byddwch yn cael Budd-dal Tai os ydych dros oed Pensiwn y Wladwriaeth.

Gwiriwch i weld a ydych chi wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UK.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am:

Os ydych chi eisoes yn cael Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol

Os nad yw'r Budd-dal Tai neu'r Credyd Cynhwysol yn talu eich rhent i gyd, gallwch wneud cais am Daliad Disgresiwn at Gostau Tai (DHP). Mae DHP yn arian ychwanegol gan eich cyngor lleol i helpu i dalu eich rhent.

Mae angen i chi fod yn cael Budd-dal Tai neu’r gydran costau tai o’r Credyd Cynhwysol i gael DHP.

Cysylltwch â'ch cyngor lleol a gofyn sut i wneud cais am DHP. Efallai y bydd yn rhaid i chi wneud cais dros y ffôn neu ar-lein. Gallwch gael gwybod sut mae cysylltu â’ch cyngor lleol ar GOV.UK.

Pan fyddwch yn gwneud cais, esboniwch pam mae angen DHP arnoch. Er enghraifft, dylech ddweud wrthynt:

  • pam na allwch fforddio talu'r rhent

  • pam na allwch symud i rywle rhatach

  • os yw'n achosi problemau i rywun rydych chi'n gofalu amdano, fel plentyn neu berthynas oedrannus

  • os oes gennych anabledd a sut mae hyn yn ei gwneud yn anoddach talu

Bydd angen i chi anfon unrhyw dystiolaeth sydd gennych, er enghraifft llythyr gan eich meddyg neu fanylion y dyledion yr ydych yn eu talu.

Mae'n syniad da cadw copi o’ch cais. Er enghraifft, gallwch dynnu lluniau o'ch ffurflen bapur neu argraffu copi o gais ar-lein.

Bydd eich cyngor lleol yn penderfynu a ddylid rhoi DHP i chi - mae'n dibynnu ar eich sefyllfa. Os bydd y cyngor yn penderfynu rhoi DHP i chi, byddant yn ysgrifennu atoch i ddweud:

  • faint gewch chi

  • pryd y bydd y DHP yn stopio

Os bydd angen DHP arnoch o hyd ar ôl iddo ddod i ben, gallwch wneud cais arall.

Cael help gyda'ch treth gyngor

Efallai y gallwch dalu llai o dreth gyngor neu beidio â'i thalu o gwbl - mae'n dibynnu ar eich amgylchiadau. 

Efallai bod modd i chi gael:

  • gostyngiadau - er enghraifft, gostyngiad person sengl

  • gostyngiad yn y Dreth Gyngor - os oes gennych incwm isel

  • 'gostyngiad yn ôl disgresiwn' - fel arfer, dim ond os gallwch ddangos eich bod yn dioddef caledi difrifol y cewch hwn

Gwiriwch i weld a allwch chi dalu llai o dreth gyngor.

Os ydych chi wedi methu taliad treth gyngor

Os oes arnoch chi arian i'r cyngor, rydych chi mewn 'ôl-ddyledion'. Dylech gysylltu â'ch cyngor ar unwaith. Gofynnwch am gael siarad â rhywun yn swyddfa'r Dreth Gyngor ac egluro eich sefyllfa.

Gallwch gael gwybod sut mae cysylltu â’ch cyngor lleol ar GOV.UK. Os byddwch yn anwybyddu ôl-ddyledion treth gyngor, efallai y bydd eich cyngor yn mynd â chi i'r llys i gael yr arian. Bydd hyn hefyd yn ychwanegu costau llys at yr arian sy’n ddyledus.

Rhagor o wybodaeth am ddelio ag ôl-ddyledion treth gyngor.

Cael help i dalu eich bil ffôn symudol, ffôn neu’r rhyngrwyd

Cysylltwch â’ch darparwr a gofyn beth mae’n gallu ei wneud i helpu. Efallai y byddant yn cytuno i:

  • leihau eich bil

  • rhoi mwy o amser i chi dalu

  • cynyddu eich data neu’r terfyn lawrlwytho

  • eich symud i gontract gwahanol

Os na fydd eich darparwr yn eich helpu, efallai y byddwch yn gallu newid i ddarparwr gwahanol. Os oes arnoch chi arian i'ch hen ddarparwr pan fyddwch yn newid, bydd yn rhaid i chi dalu'r arian sy'n ddyledus. 

Rhagor o wybodaeth am newid i ddarparwr gwahanol.

Os ydych chi'n cael budd-daliadau

Efallai y gallwch gael bargen ratach o’r enw ‘tariff cymdeithasol’. Mae’n dibynnu pa fudd-daliadau rydych chi’n eu cael a ble rydych chi’n byw. 

Gallwch wirio pa ddarparwyr sy’n cynnig tariffau cymdeithasol ar wefan Ofcom.

Cael help i dalu eich bil dŵr

Siaradwch â’ch cwmni dŵr cyn gynted ag y gallwch chi. Efallai y byddan nhw’n:

  • gadael i chi rannu eich taliadau dros gyfnod hwy

  • eich symud i gontract rhatach

Os na fyddwch chi’n siarad â’ch cwmni dŵr, ni fyddant yn eich datgysylltu, ond efallai y byddan nhw’n mynd â chi i’r llys. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu costau’r llys yn y pen draw.

Mae gan y rhan fwyaf o gwmnïau dŵr gynlluniau i'ch helpu i dalu'ch biliau - gofynnwch i'ch cwmni dŵr pan fyddwch yn siarad â nhw. 

Rhagor o wybodaeth am leihau cost eich bil dŵr.

Os ydych chi'n cael budd-daliadau

Efallai eich bod yn gymwys ar gyfer y cynllun WaterSure. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn talu mwy na'r bil cyfartalog yn eich ardal.

Gwiriwch i weld a ydych chi’n gymwys ar gyfer y cynllun WaterSure. 

Os ydych chi'n anabl

Efallai y byddwch yn gymwys i gael gostyngiadau a chynlluniau penodol. Gallwch wirio sut mae cael cyngor am ddim am reoli eich biliau dŵr ar wefan Scope.

Cael help i dalu eich morgais

Gofynnwch i ddarparwr eich morgais am help – efallai y byddan nhw’n newid y ffordd rydych chi’n talu eich morgais. Er enghraifft, efallai y byddant yn gadael i chi wneud taliadau llog-yn-unig am gyfnod.

Rhagor o wybodaeth am leihau costau eich morgais. 

Os ydych chi ar ei hôl hi gyda'ch taliadau morgais

Rydych mewn 'ôl-ddyledion' - mae hyn yn golygu bod arnoch chi arian i ddarparwr eich morgais. 

Mae angen i chi gytuno â darparwr eich morgais ar ffordd o dalu’r hyn sy’n ddyledus. Os na wnewch chi hynny, efallai y bydd darparwr eich morgais yn mynd â chi i’r llys ac yn ceisio mynd â’ch cartref. Dim ond ar ôl trafod yr holl opsiynau eraill gyda chi y dylent wneud hynny.

Ceisiwch dalu cymaint ag y gallwch, hyd yn oed os nad yw’n swm llawn. Ni all eich darparwr fynd â chi i’r llys nes bod arnoch chi gyfanswm o 3 mis o daliadau iddynt. 

Rhagor o wybodaeth am ddelio ag ôl-ddyledion morgais.

Cael help i ad-dalu eich cerdyn credyd neu fenthyciad

Os byddwch yn gofyn i’r cwmni neu’r sefydliad y mae arnoch chi arian iddo, efallai y byddant yn lleihau neu’n gohirio eich taliadau. Gallwch chi wneud y canlynol:

Os byddwch yn dweud wrth eich benthyciwr na allwch dalu, rhaid iddynt eich trin yn deg ac ystyried eich sefyllfa. 

Os nad yw eich benthyciwr yn eich helpu, gallwch gwyno wrth yr Ombwdsmon Ariannol. Maent yn ymchwilio i gwynion am sefydliadau sy’n benthyg arian. Cysylltwch â Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol ar eu gwefan.

Cael help i ad-dalu gordaliad budd-dal neu fenthyciad cyllidebu

Efallai y byddwch yn gallu talu llai os yw'r ad-daliadau'n golygu na allwch fforddio pethau fel rhent neu drydan. 

Cysylltwch â chanolfan Rheoli Dyledion yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a gofyn iddynt leihau eich taliadau. Esboniwch yr effaith y mae'r ad-daliadau'n ei chael ar eich sefyllfa ariannol. 

Canolfan gyswllt rheoli dyledion yr Adran Gwaith a Phensiynau

Rhif ffôn: 0800 916 0647    Ffôn testun: 0800 916 0651

Relay UK - os na allwch chi glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio eich neges: 18001 yna 0800 328 1344

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Ni chodir tâl ychwanegol am ei ddefnyddio. Dysgwch sut mae defnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

Ffonio o dramor: +44 (0)161 904 1233

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 7.30pm

Dydd Sadwrn, 9am i 4pm

Cael help gyda thaliadau hurbwrcas

Cysylltwch â’r cwmni y mae gennych gytundeb ag ef. Efallai y bydd modd i chi oedi neu leihau eich taliadau. Gallai’r cwmni:

  • leihau neu roi’r gorau i godi llog ar y taliadau a fethwyd 

  • newid y swm y mae'n rhaid i chi ei dalu'n ôl ac am ba hyd y bydd yn rhaid i chi ei dalu

  • caniatáu i chi dalu swm bach neu ddim byd am gyfnod penodol o amser

Gallwch hefyd ddod â hurbwrcas i ben yn ysgrifenedig a dychwelyd eich nwydd unrhyw bryd. Efallai y bydd yn rhaid i chi wneud rhai taliadau o hyd - mae'n dibynnu faint o'r cytundeb cyfan rydych chi eisoes wedi'i dalu.

Rhagor o wybodaeth am ddod â hurbwrcas i ben.

Cael help i dalu eich bil treth

Os ydych chi'n cael trafferth talu eich bil treth, dylech siarad â Chyllid a Thollau EF ar unwaith. Esboniwch eich sefyllfa a gofynnwch iddynt a allwch rannu eich taliadau dros gyfnod hwy.

Gallwch eu ffonio ar eu llinell gymorth treth incwm.

Llinell gymorth treth incwm Cyllid a Thollau EF

Rhif ffôn: 0300 200 3300

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 8pm

Dydd Sadwrn, 8am i 4pm

Mae galwadau’n costio 12c y funud o linell dir, a rhwng 3c a 45c o ffôn symudol

Os na allwch chi dalu eich bil treth, gallwch ddarllen mwy am beth i’w wneud ar GOV.UK.

Cael help i dalu am eich yswiriant

Os ydych chi'n cael trafferth talu, meddyliwch a oes angen y polisi yswiriant arnoch o hyd. Os yw’n rhywbeth sydd ei angen arnoch, cysylltwch â’ch darparwr yswiriant ac egluro eich sefyllfa. Efallai y bydd eich darparwr yn cytuno i wneud y canlynol:

  • dileu rhannau o'ch polisi i leihau'r gost - er enghraifft, canslo yswiriant torri i lawr ar yswiriant car

  • gadael i chi rannu eich taliadau dros gyfnod hwy 

Os ydych eisoes wedi talu am eich yswiriant ac yna eich bod yn newid eich polisi i'w wneud yn rhatach, dylech gael ad-daliad o'r gwahaniaeth. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi a fydd yn cael ei thynnu oddi ar yr ad-daliad.

Os na fydd eich darparwr yswiriant yn cytuno i helpu

Gallwch gwyno wrth yr Ombwdsmon. Maent yn ymchwilio i gwynion am gwmnïau a sefydliadau a gallant wneud iddynt eich helpu. 

Rhagor o wybodaeth am gwyno i Ombwdsman.

Os ydych chi’n cael trafferth gyda chost gorddrafft

Cysylltwch â'ch banc neu'ch cymdeithas adeiladu a gofyn sut y gallant eich helpu. Efallai y byddan nhw’n canslo’r ffioedd maen nhw wedi’u codi. Dylen nhw eich helpu i gyfrifo sut i dalu'r gorddrafft yn ôl.

Os nad yw eich banc yn eich helpu, gallwch gwyno wrth yr Ombwdsmon Ariannol. Maent yn ymchwilio i gwynion am fanciau a chymdeithasau adeiladu a gallant wneud iddynt eich helpu. Cysylltwch â Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol ar eu gwefan.

Os byddwch yn cymryd benthyciad i dalu'ch gorddrafft, gallai gostio mwy i chi ac achosi problemau os na allwch fforddio'r taliadau. Siaradwch â chynghorydd cyn cymryd benthyciad.

Os ydych chi'n ystyried benthyg arian i dalu eich biliau

Fel arfer, mae'n ddrytach cymryd benthyciad - bydd rhaid i chi dalu costau ychwanegol megis llog. 

Yn gyntaf, dylech gysylltu â’r sefydliadau y mae angen i chi eu talu. Efallai y gallwch gytuno ar gynllun i helpu i dalu'r arian sy'n ddyledus.

Os byddwch yn penderfynu cymryd benthyciad, dylech:

Os nad yw’r benthyciwr ar gofrestr yr FCA

Os nad ydynt ar y gofrestr, peidiwch â benthyg arian ganddynt.

Efallai y bydd benthyciwr nad yw ar y gofrestr eisiau codi cyfraddau llog uchel neu ffioedd drud. Efallai y byddan nhw'n gofyn am gael cymryd pethau fel eich pasbort, neu gerdyn banc fel gwarant ar gyfer y benthyciad - dydyn nhw ddim yn cael defnyddio'r pethau hyn fel gwarant. 

Yn aml, gelwir y benthycwyr hyn yn ‘loan sharks’. Gallwch roi gwybod am fenthycwyr arian amheus ar wefan Stop Loan Sharks.

Os ydych chi'n ei chael hi’n anodd

Mae eich iechyd meddwl yr un mor bwysig â'ch iechyd corfforol. Dylech siarad â'ch meddyg teulu os yw eich problemau ariannol yn effeithio ar eich iechyd meddwl.

Gallwch ddod o hyd i ffyrdd eraill o gael help gyda'ch iechyd meddwl ar wefan Mind. 

Os oes angen i chi siarad â rhywun

Gallwch siarad â gwirfoddolwr hyfforddedig mewn sefydliadau fel y Samariaid neu Shout.

Samariaid

Llinell gymorth: 116 123 (dydd Llun i ddydd Sul ar unrhyw adeg)

Llinell Gymraeg: 0808 164 0123 (dydd Llun i ddydd Sul 7pm tan 11pm)

Mae galwadau i'r Samariaid am ddim.

Gallwch ddod o hyd i ffyrdd eraill o gysylltu â'r Samariaid ar eu gwefan.

Shout

Gallwch hefyd anfon neges destun i 'SHOUT' i 85258 i ddechrau sgwrs gyda gwirfoddolwr Shout hyfforddedig. Mae’r negeseuon testun am ddim, yn ddienw ac yn gyfrinachol o unrhyw le yn y DU.

Os ydych chi'n meddwl ei fod yn argyfwng

Os ydych chi'n meddwl bod eich bywyd chi neu rywun arall mewn perygl, dylech ffonio 999 neu fynd i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys os gallwch chi.

Gallwch hefyd ddod o hyd i restr o wasanaethau iechyd meddwl brys ar wefan Mind.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 26 Mai 2022