Prinder dŵr - cyfyngu ar eich cyflenwad

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Rhaid i'ch cwmni dwr ddarparu cyflenwad cyson o ddwr.  Weithiau, efallai y bydd yna gyfyngiad ar y gwasanaeth oherwydd prinder dwr yn eich ardal.

Darllenwch y dudalen hon i ddarganfod pryd mae cwmni dwr yn cael cyfyngu ar eich cyflenwad dwr, am ba mor hir mae hyn yn medru para, a'ch hawliau pan fydd hyn yn digwydd.

Gwaharddiad dros dro ar bibelli dwr

Mae pob cwmni dwr yn medru gwahardd y defnydd o bibelli dwr neu sbrincleri yn eu hardal, neu gyfyngu ar y defnydd ohonynt, os oes prinder dwr difrifol.  Rhaid i'r llywodraeth gymeradwyo'r gwaharddiadau neu'r cyfyngiadau hyn.

Rhaid i'r cwmni roi rhybudd ynghylch y gwaharddid neu'r cyfyngiad mewn papur newydd lleol. Os ydych yn defnyddio pibell ddwr neu sbrincler yn ystod gwaharddiad neu gyfyngiad, efallai y byddwch yn troseddu a gellir eich dirwyo.

Efallai y bydd rhai cwmnïau’n caniatáu eithriadu i waharddiad neu gyfyngiad, er enghraifft os ydych yn oedrannus neu'n anabl.  Holwch eich cwmni ynglyn â hyn.

Gorchmynion sychder

Os oes prinder dwr o hyd ar ôl gosod gwaharddiad ar bibelli dwr, mae cwmni dwr yn medru cyflwyno cais i’r llywodraeth am orchymyn sychder.

Mae yna ddau fath o orchymyn sychder:

  • mae gorchymyn sychder cyffredin yn cyfyngu ar y defnydd o ddwr ar gyfer gweithgareddau penodol - er enghraifft dim golchi ceir na dyfrhau gerddi.  Mae'r gorchmynion sychder hyn yn medru para am chwe mis neu lai, ac yn medru cael eu hymestyn hyd at flwyddyn

  • mae gorchymyn sychder brys yn cyfyngu ar gyflenwad dwr ac yn gwneud trefniadau eraill i gyflenwi dwr, er enghraifft trwy godi safbibell yn y stryd.  Mae'r gorchmynion sychder hyn am dri mis neu lai ac yn medru cael eu hymestyn hyd at ddeufis arall.

Rhaid hysbysebu gorchmynion sychder mewn papurau lleol ac esbonio bod modd cyflwyno gwrthwynebiadau i'r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Os ydyn nhw'n torri'ch cyflenwad dwr oherwydd gorchymyn sychder brys, efallai y byddwch yn medru hawlio iawndal.

Os ydych yn torri gorchmynion sychder, er enghraifft trwy ddefnyddio sbrincler, efallai y byddwch chi'n troseddu a gellir eich dirwyo.

Camau nesaf

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

  • I gael mwy o wybodaeth am iawndal pan fydd rhywbeth yn tarfu ar eich cyflenwad dwr, gweler Y Cynllun Gwarantu Safonau OFWAT

  • I ddarganfod pa gwmni dwr sy'n cyflenwi dwr yn eich ardal chi, rhowch glic ar wefan Y Cyngor Defnyddwyr Dwr yn: www.ccwater.org.uk.

  • I gael help pellach ar faterion yn ymwneud â dwr,  ewch at wefan y Cyngor Defnyddwyr Dwr ar: www.ccwater.org.uk.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 24 Chwefror 2020