Symud tŷ a biliau dŵr
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae'r dudalen hon yn esbonio beth ddylech chi ei wneud ynglyn â dweud wrth eich cwmni dwr pan fyddwch chi'n symud ty.
Pan fyddwch chi'n symud allan
Fe fydd angen i chi ddweud wrth eich cwmni dwr pryd yr ydych chi'n bwriadu symud, ac i ble, fel ei fod yn glir na fyddwch yn gyfrifol mwyach am y biliau dwr yn eich hen dy.
Os oes mesurydd dwr gennych, rhowch o leiaf bum niwrnod gwaith o rybudd i'ch cwmni dwr fel ei fod yn medru trefnu cymryd darlleniad terfynol o'r mesurydd. Os na wnewch chi hyn, efallai y gwelwch chi eich bod yn cael bil am ddwr a ddefnyddiwyd wedi i chi symud allan.
Pan fyddwch chi'n symud i mewn i'ch cartref newydd
Fe fydd angen i chi ddweud wrth eich cwmni dwr newydd pryd y symudoch chi i mewn. Os ydych yn symud ty ond yn aros gyda'r un cwmni dwr, fe fydd angen iddo wybod am y newid i'ch cyfeiriad.
Mae yna fesurydd dwr yn eich cartref newydd
Os ydych yn symud i eiddo ble mae yna fesurydd yn barod, gallwch ofyn am gael ei wared.
Os oes mesurydd gennych yn eich cartref newydd, cymerwch ddarlleniad unwaith fyddwch chi wedi symud i mewn.
Taliadau carthffosiaeth
Pan fyddwch chi'n symud ty, efallai y gwelwch chi fod y cwmni sy'n cyflenwi'ch dwr hefyd yn cyflenwi'ch carthffosiaeth, neu efallai mai cwmni arall sy'n ei gyflenwi. Os mai cwmni gwahanol ydyw, efallai y cewch fil ar wahân, neu efallai y bydd eich cwmni dwr yn cynnwys costau carthffosiaeth ar y bil ar ran y cwmni carthffosiaeth.
Camau nesaf
Gwybodaeth ddefnyddiol arall
I ddarganfod pa gwmni dwr sy'n cyflenwi dwr yn eich ardal chi, rhowch glic ar wefan y Cyngor Defnyddwyr Dwr yn: www.ccwater.org.uk
I gael help pellach ar faterion dwr, ewch at wefan y Cyngor Defnyddwyr Dwr ar: www.ccwater.org.uk
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 20 Chwefror 2020