Newid at fesurydd dŵr
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Fe fyddwch naill ai'n talu am eich bil dwr ar gyfradd sefydlog neu ar sail y dwr yr ydych yn ei ddefnyddio mewn gwirionedd, a fesurir gyda mesurydd dŵr.
Mae'r dudalen hon yn esbonio'ch hawl i gael mesurydd wedi ei osod, a'r manteision a'r anfanteision i newid at fesurydd dŵr.
Eich hawl i gael mesurydd wedi ei osod
Mae gennych yr hawl i dalu am eich dŵr ar sail yr hyn yr ydych yn ei ddefnyddio. Mae hyn yn golygu bod hawl gennych i gael mesurydd dwr wedi ei osod yn rhad ac am ddim, os yw'n ymarferol neu os nad yw'n afresymol o ddrud i wneud hynny. Mae gan denantiaid yr hawl i ofyn am fesurydd hefyd os yw cytundeb eu tenantiaeth am chwe mis neu fwy.
Os ydych yn ystyried newid at fesurydd dŵr, dylech gysylltu â'ch cwmni dŵr. Gallech wneud hyn dros y ffôn, neu efallai y byddwch yn medru gwneud cais ar eu gwefan.
Os nad ydych yn medru cael mesurydd dwr wedi ei osod, am unrhyw reswm, efallai y bydd eich cwmni dŵr yn medru eich gosod chi ar dariff rhatach er mwyn i chi fedru arbed arian.
Mewn rhai ardaloedd, mae'r cwmni dŵr yn cyflwyno mesuryddion dŵr i bawb fel bod pob un yn cael mesurydd.
Os ydych yn gofyn am fesurydd, dylai'r cwmni ei osod o fewn tri mis. Mewn ardaloedd ble mae mesuryddion rhad ac am ddim yn cael eu gosod am y tro cyntaf, efallai y bydd yn rhaid ei osod o fewn chwe mis.
Pryd mae'n syniad da ystyried newid at fesurydd dŵr?
Efallai y byddai o fudd i chi newid at fesurydd dŵr os nad ydych yn defnyddio llawer o ddŵr.
Efallai y bydd hefyd yn werth newid at fesurydd os oes gwerth ardrethol uchel ar eich eiddo. Mae hyn am fod rhai biliau dwr yn seiliedig ar werth ardrethol yr eiddo. Cyn mis Ebrill 1990, rhoddwyd gwerth ardrethol ar bob eiddo yng Nghymru a Lloegr, ar sail y pris y gellid ei godi am osod yr eiddo. Un ffordd dda o feddwl am hyn yw meddwl y gallech dalu llai os oes llai o bobl yn eich eiddo na'r nifer o ystafelloedd gwely.
Os ydych yn newid at fesurydd dwr, fe fydd y cwmni'n dod i ddarllen eich mesurydd. Ni fyddwch yn gwybod faint yn union fydd eich bil bob tro, oherwydd efallai y byddwch yn defnyddio mwy o ddwr os oes pobl ychwanegol yn dod i fyw gyda chi neu os ydych yn prynu cyfarpar newydd sy'n defnyddio dŵr.
Fe fyddwch chi'n gyfrifol am dalu am unrhyw ddwr sy'n gollwng. Ond, fel arfer ni fydd cwmni dwr yn codi tâl am y gollyngiad cyntaf mewn pibell gyflenwi danddaearol.
Mae gan lawer o gwmnïau declynnau i gyfrifo'r defnydd o ddwr ar eu gwefan, er mwyn eich helpu i gyfrifo faint yr ydych yn debygol o'i dalu os oes mesurydd gennych.
Os ydych yn gweld nad ydych ar eich ennill wedi i chi newid at fesurydd, fel arfer fe allwch fynd yn ôl i dalu’r bil fel yr oeddech yn ei dalu o’r blaen, o fewn deuddeg mis. Ni fyddwch yn medru gwneud hyn os ydych wedi symud i eiddo ble mae yna fesurydd yn barod, neu os ydyn nhw wedi cyflwyno mesuryddion i bawb yn eich ardal chi.
Os ydych yn denant
Os ydych yn denant, fe fyddwch yn dal i fedru gofyn am fesurydd.
Os oes tenantiaeth cyfnod sefydlog gennych, ac mae'n llai na chwe mis, rhaid i chi ofyn am ganiatâd y landlord. Os yw'ch cytundeb tenantiaeth cyfnod sefydlog yn fwy na chwe mis, ni fyddwch chi angen caniatâd eich landlord i gael mesurydd ond efallai y bydd cytundeb eich tenantiaeth yn nodi bod angen i chi ofyn am ei ganiatâd cyn addasu'r eiddo.
Efallai y byddwch chi angen cyngor os nad yw'ch landlord yn cytuno i chi gael mesurydd, oherwydd fe allai unrhyw anghytundeb achosi problemau pan fyddwch chi am adnewyddu eich tenantiaeth.
Help gyda'ch biliau dŵr
Mae Watersure yn gynllun sy'n helpu rhai pobl gyda'u biliau dŵr. Er mwyn ymgeisio i'r cynllun, rhaid eich bod chi ar fudd-daliadau a rhaid eich bod chi angen defnyddio llawer o ddŵr, naill ai am resymau meddygol neu am fod nifer penodol o blant oed ysgol yn byw ar eich aelwyd. Mae angen i chi fod ar fesurydd dŵr hefyd neu raid eich bod yn aros i gael mesurydd dŵr wedi ei osod.
Mae Cynllun Cymorth Dŵr Cymru yn gynllun tebyg i gwsmeriaid Dŵr Cymru, ond nid oes rhaid i chi fod ar fesurydd dŵr na’n cael un wedi ei osod.
Camau nesaf
Gwybodaeth ddefnyddiol arall
I ddarganfod pa gwmni dwr sy'n cyflenwi dŵr yn eich ardal chi, ac i gael help pellach gyda materion dŵr, rhowch glic ar wefan Consumer Council for Water yn: www.ccwater.org.uk
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.