Yswiriant ar gyfer eich cerbyd - hawlio os ydych chi mewn damwain

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os yw'ch cerbyd mewn damwain, efallai y byddwch chi am hawlio ar eich yswiriant moduro. Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych beth sydd angen i chi ei wybod cyn hawlio. A beth fedrwch chi ei wneud os nad oes yswiriant gan y gyrrwr arall neu mae'n gwrthod rhoi ei fanylion i chi.

Hawlio os ydych mewn damwain

Os ydych mewn damwain, dylech:

  • beidio â chyfaddef yn y fan a'r lle mai chi oedd ar fai, neu efallai na fydd eich polisi'n ddilys

  • gyfnewid enwau a manylion eraill gyda'r gyrwyr eraill a chael manylion unrhyw dystion annibynnol. Os yw rhywun yn gwrthod rhoi eu manylion i chi, efallai y bydd eich cwmni yswiriant yn medru dod o hyd iddynt trwy rif cofrestru'r cerbyd.

  • ddweud wrth eich cwmni yswiriant am y ddamwain ar unwaith, hyd yn oed os nad ydych am hawlio

  • os oes rhywun wedi cael ei anafu, dangos eich tystysgrif yswiriant neu nodyn diogelu i'r heddlu. Os nad ydych yn medru gwneud hyn yn y fan a'r lle, ewch â'r dogfennau i orsaf yr heddlu o fewn saith niwrnod

  • dynnu lluniau y byddwch yn medru eu defnyddio'n nes ymlaen fel tystiolaeth os oes angen i chi hawlio.

Os oes yswiriant cynhwysfawr gennych

Os oes polisi cynhwysfawr gennych, dylech hawlio gan eich cwmni yswiriant chi, ond efallai y byddwch yn colli'ch bonws am beidio â hawlio os nad yw'r cwmni yswiriant yn medru adennill yr arian gan gwmni yswiriant y gyrrwr arall.

Gallwch hawlio gan gwmni yswiriant y gyrrwr arall o hyd am unrhyw anafiadau neu golledion nad oedd eich polisi chi wedi eu hadennill. Gelwir y rhain yn golledion heb eu hyswirio ac maen nhw'n medru cynnwys trafnidiaeth arall tra bod eich cerbyd chi yn cael ei drwsio, colli enillion, anafiadau personol a'r tâl-dros-ben ar eich polisi.

Dylech gadw unrhyw golledion i leiafswm a chadw tystiolaeth ohonynt. Os oes angen i chi hurio cerbyd arall, fel arfer dylai fod yn debyg i'ch cerbyd chi.

Er mwyn hawlio, mynnwch ffurflen gan eich cwmni yswiriant neu ysgrifennwch at y gyrrwr arall neu ei gwmni yswiriant, yn rhoi manylion y ddamwain a rhif polisi'r gyrrwr arall.  Dywedwch wrth eich cwmni yswiriant am unrhyw dystion annibynnol ac anfonwch ddatganiadau tyst os yn bosib. Os oeddech wedi defnyddio brocer neu asiant i brynu'ch polisi, efallai y bydd yn medru eich helpu. Sicrhewch eich bod yn cadw copi o bob dogfen a llythyr.

Os oes yswiriant trydydd person gennych

Dylech hawlio yn erbyn y gyrrwr arall a gadael i'r cwmni yswiriant benderfynu pwy sy'n gyfrifol am y ddamwain. Os yw'n dweud mai chi oedd ar fai, fe fydd yn rhaid i chi dalu am drwsio eich cerbyd eich hun.

I hawlio gan y gyrrwr arall, dywedwch wrtho yn ysgrifenedig eich bod am hawlio ganddo. Os oedd yn gyrru cerbyd cwmni, dywedwch wrth y cwmni beth sydd wedi digwydd hefyd. Dylech ddweud wrth eich cwmni yswiriant chi eich bod wedi gwneud hyn. Dylai'r gyrrwr arall riportio'r ddamwain i'w gwmni yswiriant ei hun. Gallwch ddarganfod os oes yswiriant gan y gyrrwr arall trwy gysylltu â Chronfa Ddata Yswiriant Moduro/Motor Insurance Database

Os ydych chi wedi bod mewn damwain ac rydych yn cael llythyr neu ffurflen hawlio gan y gyrrwr arall neu ei gwmni yswiriant, anfonwch hwn ymlaen at eich cwmni yswiriant chi.

Os nad chi oedd ar fai am y ddamwain

Os nad chi oedd ar fai am y ddamwain, efallai y byddwch yn medru defnyddio cwmni hurio credyd yn hytrach na'ch cwmni yswiriant.

Os nad oes yswiriant gan y gyrrwr neu os nad ydych yn medru dod o hyd iddo

Gallwch hawlio ar eich yswiriant chi os oes polisi cynhwysfawr gennych. Efallai y bydd Motor Insurers Bureau (MIB) hefyd yn medru setlo'ch hawliad os nad oes yswiriant gan y gyrrwr arall. Mae hyn yn cynnwys achosion ble mae'r gyrrwr wedi torri amodau ei bolisi.

Ni fyddwch yn medru hawlio os ydych yn deithiwr sydd wedi cael anaf ac nid oes yswiriant gan y gyrrwr ac roeddech yn gwybod nad oedd yswiriant ganddo, neu dylech chi fod wedi gwybod hyn.

Trwsio'ch cerbyd

Ni ddylech gael eich car wedi ei drwsio heb ganiatâd eich cwmni yswiriant, oherwydd efallai y bydd am anfon rhywun allan i'w archwilio ac efallai y bydd yn rhaid i chi ddefnyddio cwmni trwsio a gymeradwywyd.

Os gofynnir i chi gael eich dyfynbrisiau eich hun, efallai y bydd yn rhaid i chi ofyn i'ch cwmni yswiriant am gymeradwyaeth cyn mynd ymlaen gyda'r atgyweiriadau.

Efallai y byddwch hefyd yn gorfod talu rhai o'r costau atgyweirio eich hun os yw'ch cerbyd mewn gwell cyflwr ar ôl ei drwsio nag yr oedd cyn ei drwsio.

Os nad oes modd rhoi'ch car yn ôl ar yr heol

Os yw'ch cwmni yswiriant yn penderfynu nad yw'n medru cyfiawnhau trwsio'ch car am resymau ariannol, dylai gynnig gwerth y car ar y farchnad adeg y ddamwain. Fel arfer, os yw hyn yn digwydd, mae'n cymryd y car oddi arnoch ond efallai y byddwch yn medru trafod gyda'r cwmni os ydych am ei gadw.

Os nad ydych yn cytuno bod y swm a gynigiwyd i chi yn deg, fe fydd angen i chi roi tystiolaeth i'r cwmni yswiriant neu'r brocer yswiriant i ddangos bod eich car yn werth mwy.  Er enghraifft, gallech roi prisiau ceir tebyg sydd ar werth yn yr ardal.  Gallech hefyd gael peiriannydd annibynnol cymwys i brisio'ch car os ydych am dalu iddo wneud hynny.

Unwaith fydd yr hawliad wedi cael ei setlo, fe fydd eich cwmni yswiriant yn cadw'r car a ddifrodwyd.  Os ydych chi am gadw'r car yn lle, gallwch drafod hyn gyda'r cwmni yswiriant. Fe fydd y cwmni yswiriant ond yn gadael i chi gadw'r car os yw'n bosib ei drwsio fel ei fod yn addas at yr heol unwaith eto.  Yn yr achos hwn, fe fydd yn tynnu arian oddi ar y swm a gewch, ar gyfer gwerth achub y car.

Dylai'ch cwmni yswiriant gael eich caniatâd chi i anfon eich car at yr iard sgrap i'w werthu neu ei dorri'n ddarnau sbâr. Os nad yw'n cael eich caniatâd, ac mae'n anfon y car i'w dorri'n ddarnau sgrap ac yn penderfynu peidio â setlo'ch hawliad, cewch hawlio gwerth achub y car.

Camau nesaf

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Darganfyddwch fwy am hawlio yn erbyn gyrrwr sydd heb yswiriant ar Motor Insurers Bureau ar: www.mib.org.uk.

Ffôn: 0845 165 2800

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 20 Chwefror 2020