Yswiriant ar gyfer eich cerbyd - os nad oeddech ar fai am y ddamwain

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os yw'ch cerbyd mewn damwain, efallai y byddwch chi am hawlio ar eich yswiriant moduro er mwyn ei drwsio. Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych beth fedrwch chi ei wneud os nad chi oedd ar fai am y ddamwain a beth sydd angen i chi feddwl amdano cyn i'ch cerbyd gael ei drwsio.

Os nad chi oedd ar fai am y ddamwain

Os nad chi oedd ar fai am y ddamwain, gallwch ddefnyddio cwmni hurio credyd yn lle hawlio trwy'ch cwmni yswiriant. Mae cwmni hurio credyd yn talu am y gost o hurio cerbyd arall tra bod eich cerbyd chi'n cael ei drwsio, ac mae'n talu am gost yr atgyweiriadau. Yna, mae'r cwmni'n hawlio'r costau hyn yn ôl gan gwmni yswiriant y gyrrwr arall sydd ar fai am y ddamwain.

Pam fuaswn i am ddefnyddio cwmni hurio credyd?

Os ydych chi'n defnyddio cwmni hurio credyd, ni fydd yn rhaid i chi dalu'r taliad tâl-dros-ben ar eich polisi. Mae'r cwmni hurio credyd yn gwneud y trefniadau gyda'ch cwmni yswiriant ac yn rhoi cludiant arall i chi yn lle. Efallai y bydd hefyd yn cynnig gwasanaeth i drefnu atgyweiriadau ac i'ch helpu i hawlio iawndal am anafiadau eraill neu golledion oherwydd y ddamwain.

Fe fydd angen i'ch cwmni yswiriant wybod am y ddamwain er gwybodaeth, hyd yn oed os nad ydych yn hawlio trwyddo. Efallai y bydd y cwmni hurio credyd yn cynnig cysylltu â'ch cwmni yswiriant i chi, neu'n gofyn i chi roi gwybod iddo.

Beth sydd angen i mi ei wybod os ydw i'n defnyddio cwmni hurio credyd?

Sicrhewch eich bod yn darllen y print bach cyn cytuno i ddefnyddio cwmni hurio credyd. Dylai fod manylion yn y cytundeb am gost dyddiol y car hurio. Fe fyddan nhw hefyd yn cynnwys swm sy'n dweud faint fydd yn rhaid i chi ei dalu os nad ydych yn cydweithredu â'r cwmni neu os ydych yn ei gamarwain mewn unrhyw ffordd.

Efallai y bydd rhai cwmnïau hurio credyd hefyd yn gofyn am dâl bach fel polisi yswiriant, i warantu na fyddwch yn talu'r bil os yw'r cwmni yswiriant neu'r gyrrwr arall yn gwrthod talu.

Byddwch hefyd yn llofnodi i ddweud y bydd unrhyw gostau yn eich enw chi ac efallai y gofynnir am fanylion ariannol. Maen nhw'n gofyn am yr wybodaeth hon rhag ofn i'r cwmni yswiriant ddwyn achos llys yn erbyn y cwmni hurio credyd, am ei fod yn credu iddo godi gormod. Yn yr achos hwn, fe fydd yn rhaid i chi roi tystiolaeth gerbron y llys. Efallai y bydd angen i chi brofi bod angen y car hurio arnoch ac na fyddech yn medru talu amdano heb help y cwmni hurio credyd. Os yw hyn yn digwydd, mynnwch gyngor cyfreithiol.

Os nad ydych yn siŵr os ydych chi am ddefnyddio cwmni hurio credyd, ac mae'r gyrrwr arall wedi cyfaddef ei fod ar fai, gallwch ofyn i'r cwmni yswiriant drefnu'r car hurio a'r atgyweiriadau. Yn aml iawn, ni fydd cwmni yswiriant y gyrrwr arall yn dweud pwy sydd ar fai am y ddamwain ar unwaith, ac yna fe fydd angen i chi hawlio trwy'ch cwmni yswiriant.

Sut ydw i'n medru cael gwybod mwy am gwmnïau hurio credyd?

Efallai y bydd eich cwmni yswiriant neu garej yn eich cyfeirio at gwmni hurio credyd

  • Gallwch hefyd ddarganfod mwy am gwmnïau hurio credyd ar wefan mudiad o'r enw Credit Hire Organisation: www.thecho.co.uk

Talu'r tâl-dros-ben am ddamwain car pan nad chi sydd ar fai

Pan fyddwch chi'n talu'r tâl-dros-ben ar gyfer damwain car os nad chi sydd ar fai, efallai y bydd angen i chi hawlio'r arian yma yn ôl gan gwmni yswiriant y gyrrwr sydd wedi achosi'r ddamwain, unwaith fydd yr hawliad wedi ei setlo, os nad oes darpariaeth treuliau cyfreithiol gennych i dalu am hyn. Os ydych yn cael trafferth cael eich arian yn ôl, gallwch ddwyn achos llys yn erbyn y gyrrwr neu'r cwmni yswiriant.

Os yw'ch cwmni yswiriant wedi delio gyda'r hawliad, dylai hawlio'r tâl-dros-ben yn ôl i chi. Os ydych mewn damwain ac nid chi oedd ar fai, mae cwmni hurio credyd hefyd yn medru hawlio ar eich rhan.

Camau nesaf

Other useful information

Darganfyddwch fwy am hawlio yn erbyn gyrrwr sydd heb yswiriant ar Motor Insurers Bureau ar: www.mib.org.uk.

Ffôn: 0845 165 2800

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.