Yswiriant salwch

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae yswiriant salwch yn gwarchod eich incwm os na allwch weithio oherwydd damwain, salwch hirdymor neu anabledd.

Mae yna sawl gwahanol fath o yswiriant salwch. Mae rhai yn talu un cyfandaliad, rhai eraill yn talu incwm misol rheolaidd, tra bod eraill yn talu am bethau penodol, megis eich morgais neu’ch cerdyn credyd.

Mae’r dudalen hon yn egluro’r gwahanol fathau o yswiriant salwch sydd ar gael, a’r hyn ddylech ei ystyried cyn trefnu un o’r polisïau hyn.

Pam dewis yswiriant salwch?

Os na allwch weithio oherwydd salwch, damwain neu anabledd, mae’n bosib y gallwch gael budd-daliadau’r wladwriaeth neu dâl salwch gan eich cyflogwr. Fodd bynnag, efallai ni fyddant yn ateb eich holl anghenion.

Mae’n werth gweld a fedrech chi ymdopi petai rhaid i chi ddibynnu ar fudd-daliadau’r wladwriaeth. Cymharwch y swm hwn gyda’r swm yr ydych yn ei feddwl byddai angen arnoch i fyw arno. Byddai’n werth ystyried cymryd yswiriant salwch i roi hwb i’ch incwm.

A fyddwch yn cael tâl salwch neu bensiwn gan eich cyflogwr?

Efallai y bydd eich cyflogwr yn talu Tâl Salwch dan Gontract i chi. Mae hyn yn golygu y byddwch yn derbyn eich holl gyflog neu ran ohono yn rheolaidd am gyfnod penodol o amser os na fedrwch chi weithio.

Bydd rhai cwmnïau hefyd yn talu eich pensiwn yn gynnar os oes yn rhaid i chi ymddeol yn gynnar oherwydd salwch, er gallai’r swm fod yn llai na’r swm byddech yn ei dderbyn petai chi’n gweithio tan oed ymddeol.

Os nad ydych yn siŵr pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio gan eich cyflogwr os na allwch weithio oherwydd salwch, dylech ofyn iddo am fanylion.

Os ydych yn hunangyflogedig

Mae’n werth ystyried yswiriant salwch weithiau os ydych yn hunangyflogedig a methu cael cyflog gan gyflogwr neu hawlio Tâl Salwch Statudol. Fodd bynnag, mae yna sawl math o yswiriant salwch na allwch ei gael oherwydd eich bod yn hunangyflogedig, felly bydd angen i chi wirio’r polisïau yn ofalus iawn cyn trefnu un ohonynt.

Mathau o yswiriant salwch

Yswiriant salwch critigol

Mae hwn yn fath o yswiriant salwch sy’n talu cyfandaliad os oes gennych salwch penodol megis cancr, neu os ydych wedi cael trawiad ar y galon. Os oes gennych forgais, mae’n bosib y gwerthwyd yswiriant salwch critigol i chi pan godoch eich benthyciad. Nid yw hyn yr un peth ag yswiriant diogelu taliadau morgais.

Yswiriant diogelu incwm

Gelwir hyn hefyd yn yswiriant iechyd parhaol. Mae’n talu incwm i chi am weddill eich oes neu tan eich bod yn ymddeol os na fedrwch weithio oherwydd salwch neu anabledd. Fel arfer, mae’n rhaid i chi aros ychydig wythnosau neu fisoedd cyn i’r taliadau ddechrau.

Yswiriant Diogelu Taliadau (PPI)

Mae’r math hwn o yswiriant yn gwarchod taliadau morgais, cardiau credyd, cardiau siop neu fenthyciadau personol os na allwch weithio oherwydd salwch neu os bydd diweithdra yn taro. Efallai y bydd rhaid i chi aros ychydig o fisoedd cyn bod y taliadau yn dechrau ac maent fel arfer yn stopio ar ôl hyn a hyn o amser.

Ni ddylai darparwr byth werthu PPI i chi heblaw ei fod yn siŵr bod y polisi yn addas i’ch anghenion. Os ydych yn credu bod rhywun wedi cam-werthu PPI i chi, fe allwch wneud cais i hawlio iawndal.

Yswiriant diogelu taliadau morgais

Yswiriant sy’n gwarchod eich morgais yn unig. Efallai y bydd angen i chi aros ychydig fisoedd cyn bod y taliadau yn dechrau ac maent fel arfer yn stopio ar ôl hyn a hyn o amser.

Beth i’w ystyried cyn trefnu yswiriant salwch

Cyn i chi drefnu yswiriant salwch gwnewch yn siŵr nad oes gennych yswiriant salwch yn gysylltiedig â pholisi yswiriant arall neu gyda’ch morgais.  

Hefyd, edrychwch i weld pa fudd-daliadau a gewch gan eich cyflogwr os na fedrwch weithio oherwydd salwch neu anabledd.

Efallai bod gennych gynilion i’w defnyddio yn hytrach nag yswiriant. Fodd bynnag, cyfrifwch a yw eich cynilion yn ddigon i’ch diogelu dros gyfnod hir o salwch.

Beth sydd ddim yn cael ei gynnwys mewn yswiriant salwch?

Nid yw polisïau yswiriant salwch bob amser yn eich gwarchod rhag pob math o salwch. Mae rhai polisïau yn dweud bod rhaid i chi fod yn ddifrifol sâl neu’n gwbl anabl cyn y gallwch chi hawlio.

Efallai nad yw’r yswiriant yn eich diogelu rhag salwch yr ydych wedi ei ddioddef yn y gorffennol, felly gwiriwch y polisi i weld beth fydd yn cael ei dalu allan pan fyddwch yn sâl.

Rhaid i chi roi cymaint o wybodaeth â phosibl i’r cwmni yswiriant am unrhyw gyflyrau meddygol sydd gennych eisoes, neu yr ydych wedi dioddef ohonynt yn y gorffennol. Os na, efallai bydd hyn yn effeithio ar eich gallu i hawlio.

Faint mae yswiriant salwch yn ei gostio?

Gall yswiriant salwch fod yn gostus a ni fyddwch yn cael unrhyw arian yn ôl os nad ydych yn hawlio. Wrth i chi heneiddio, mae’r gost yn cynyddu oherwydd y byddwch yn fwy tebygol o hawlio.

Os oes gennych swydd beryglus neu gorfforol iawn, efallai y byddwch yn ei chael yn anodd trefnu yswiriant salwch neu efallai bydd disgwyl i chi dalu mwy amdano.

Os oes gennych hobïau peryglus neu ffordd o fyw sy’n cynnwys ysmygu, yfed yn drwm neu gymryd cyffuriau, mae’n bosib na chewch yswiriant salwch.

Efallai na fydd yswirwyr yn eich talu os nad ydych yn datgan yr wybodaeth gywir iddynt o flaen llaw ynglŷn â phethau a allai effeithio ar eich gallu i hawlio.

Faint o amser sydd rhaid aros cyn hawlio?

Fel arfer, mae’n rhaid i chi aros o leiaf mis cyn hawlio. Edrychwch i weld pa hyd yw’r cyfnod sydd rhaid i chi aros a meddyliwch sut y byddwch am gynnal eich hun yn ystod y cyfnod hwnnw.

Fe allai gostio llai am yswiriant salwch os ydych yn cael tâl salwch gan eich cyflogwr neu os oes gennych gynilion y gallwch eu defnyddio am yr ychydig fisoedd cyntaf. Fe allwch drefnu i’r yswiriant salwch ddechrau talu allan pan fydd eich incwm arall yn dod i ben.

Camau nesaf

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 20 Chwefror 2020