Yswiriant Salwch Critigol

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Beth yw yswiriant salwch critigol?

Mae yswiriant salwch critigol yn rhoi cyfandaliad o arian i chi os oes gennych salwch neu anabledd penodol.

Mae’r mathau o salwch hyn fel arfer yn hirdymor ac yn gyflyrau difrifol iawn megis trawiad ar y galon neu strôc, colli breichiau neu goesau, neu afiechydon fel cancr, parlys ymledol neu afiechyd Parkinson.

Os ydych ar eich colled oherwydd eich salwch, mae cael swm mawr o arian i wario ar gostau bob dydd, talu eich morgais neu gostau meddygol yn gallu bod yn ddefnyddiol. Gallwch ddefnyddio’r arian mewn unrhyw ffordd ac nid oes yn rhaid i chi ei wario ar unrhyw beth yn benodol.

Mae’n bosib eich bod yn derbyn incwm arall tra’ch bod yn sâl megis budd-daliadau’r wladwriaeth neu dâl salwch o’ch cyflogwr. Fodd bynnag, efallai na fydd yn ateb eich holl anghenion. Mae’n syniad da meddwl am faint o arian fydd ei angen arnoch bob dydd os fyddwch yn ddifrifol sâl a ph’un ai bydd angen arian ychwanegol arnoch i hybu eich incwm.

Mae yna fathau eraill o yswiriant salwch allwch eu cael megis yswiriant diogelu incwm. Mae yswiriant salwch critigol yn dueddol o fod yn ffordd lai drud o ddiogelu eich incwm os ydych yn sâl neu’n anabl ond mae yna anfanteision a chyfyngiadau.

Dylech gymharu yswiriant salwch critigol gyda mathau eraill o yswiriant salwch cyn dod i benderfyniad. Os hoffech fwy o wybodaeth amdanynt, gweler Cymorth a gwybodaeth ychwanegol.

Yr hyn ddylech chi ei ystyried cyn prynu yswiriant salwch critigol

Cyn meddwl am brynu yswiriant salwch critigol, gofynnwch y cwestiynau canlynol i’ch hun:

A oes wir angen yswiriant salwch critigol arnaf?

Dylech wirio:

  • p’un ai bod rhyw fath o yswiriant salwch arall yn gysylltiedig â pholisi yswiriant arall megis polisi yswiriant bywyd, neu eich morgais

  • pa fudd-daliadau y bydd eich cyflogwr yn eich talu os na allwch weithio oherwydd salwch neu anabledd

  • p’un ai bod gennych gynilion i’w defnyddio yn hytrach nag yswiriant.

Ai dyma’r math gorau o yswiriant salwch ar fy nghyfer i?

Gwiriwch yr holl wahanol fathau o yswiriant salwch er mwyn gwybod pa un fyddai’n ateb eich anghenion chi. Er enghraifft, mae yswiriant diogelu incwm fel arfer yn cynnwys gwell amrywiaeth o afiechydon a chyflyrau nag yswiriant salwch critigol ac mae’n para’n hirach os na allwch weithio. Fodd bynnag, mae’n bosib ei fod yn ddrutach nag yswiriant salwch critigol.

Os hoffech fwy o wybodaeth am yswiriant diogelu incwm, gweler Yswiriant diogelu incwm.

A allaf fforddio yswiriant salwch?

Gallai costau (neu bremiymau) yswiriant salwch critigol fod yn eithaf uchel ac efallai na fydd angen i chi ei ddefnyddio. Ni fyddwch yn cael unrhyw arian yn ôl os nad ydych yn hawlio.

Os hoffech fwy o wybodaeth am hyn, gweler Yswiriant Salwch.

A oes yna unrhyw eithriadau eraill?

Nid yw polisïau yswiriant salwch critigol yn eich gwarchod rhag pob math o salwch ac fel arfer mae’n rhaid i chi fod yn ddifrifol sâl neu’n gwbl anabl cyn gallwch hawlio.

Yn ogystal â hyn, mae’n bosib na fyddwch yn cael eich gwarchod os oes gennych salwch yr ydych chi neu aelod o’ch teulu wedi’i gael o’r blaen.

Bydd angen i chi wirio’r polisi yswiriant yn ofalus er mwyn gwybod faint o arian y byddwch yn ei gael os fyddwch yn sâl.

Yr hyn ddylech chi ei wybod cyn prynu yswiriant salwch critigol

Bydd angen i chi wybod yn union faint o arian y byddwch yn ei gael pan fyddwch yn hawlio. Pan ydych yn hawlio yswiriant salwch critigol, cewch un taliad yn unig. Gallai fod yn swm mawr iawn o arian, yn dibynnu ar faint yr ydych wedi yswirio’ch hun. Fodd bynnag, mae’n bosib na fydd yn para os na allwch weithio am gyfnod hir o amser, neu fethu gweithio eto. Ar y llaw arall, gall yswiriant diogelu incwm bara cyn hired â bod ei angen arnoch.

Os hoffech fwy o wybodaeth am yswiriant diogelu incwm, gweler Yswiriant diogelu incwm.

Bydd angen i chi wybod yn union pa salwch sy’n cael ei warchod gan y polisi. Dim ond ychydig o afiechydon penodol iawn sy’n cael eu gwarchod. Gwiriwch ddogfennau’r polisi yswiriant yn ofalus iawn er mwyn i chi wybod pa rai ydynt. Mae yna reolau sy’n dweud bod yn rhaid i ddogfennau’r polisi gael eu hysgrifennu mewn Saesneg syml fel eich bod yn eu deall.

Bydd angen i chi wybod yn union pa mor anabl neu sâl y mae’n rhaid i chi fod cyn gallwch wneud cais. Er enghraifft, mae’n bosib nad yw cyfnodau cynnar canserau cyffredin yn gymwys, neu efallai bod yn rhaid i chi fod yn gwbl anabl cyn derbyn unrhyw arian.

Bydd angen i chi wybod p’un ai y cewch eich gwarchod os oes gennych eisoes gyflwr meddygol sef salwch yr ydych wedi ei gael o’r blaen. Bydd yswirwyr yn edrych ar hanes meddygol eich teulu a bydd rhai polisïau yn cynnwys rhai cyflyrau meddygol sydd gennych eisoes ond ni fydd rhai yn gwneud hyn. Os yw hanes meddygol eich teulu yn golygu y bydd amodau yn gysylltiedig â’ch polisi, dylai eich yswiriwr eu hesbonio i chi cyn eich bod yn ei brynu.

Yr hyn ddylech chi ei ddweud wrth eich yswirwyr salwch critigol

Mae’n rhaid i chi roi manylion llawn eich hanes meddygol chi a’ch teulu. Os nad ydych yn dweud y cwbl ac os ydych yn ceisio hawlio, gallai eich yswiriwr wrthod eich talu.

Os oes gennych eisoes gyflwr meddygol, edrychwch am yswiriwr a fydd yn barod i’ch gwarchod, er efallai bydd yn rhaid i chi dalu mwy am y polisi. Mae’r cyflyrau hyn yn golygu cyflyrau meddygol a oedd eisoes arnoch.

Nid oes yn rhaid i chi drafod gwybodaeth bersonol neu sensitif gyda’r person sy’n gwerthu’r polisi. Gallwch anfon y wybodaeth yn uniongyrchol at swyddog meddygol yr yswiriwr.

Sut i brynu yswiriant salwch critigol

Gallwch brynu polisi yswiriant salwch critigol:

  • oddi wrth ymgynghorydd ariannol annibynnol sy’n edrych ar yr holl bolisïau sy’n cael eu cynnig a dewis yr un mwyaf addas ar eich cyfer chi. Mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu am y cyngor hwn

  • yn uniongyrchol o’r cwmni yswiriant.

Os hoffech fwy o wybodaeth am gyngor ariannol annibynnol, gweler Cael cyngor ariannol.

Os hoffech brynu yswiriant salwch critigol yn uniongyrchol oddi wrth gwmni yswiriant, gallwch ddefnyddio gwefan cymharu. Mae’n bosib na fyddwch yn gallu prynu yswiriant ar-lein oherwydd bydd angen i’r cwmni asesu eich addasrwydd. Fodd bynnag, bydd angen i chi wneud cais am ddyfynbris ar-lein neu ddod o hyd i fanylion ymgynghorwyr yswiriant.

Am fwy o fanylion am wefannau cymharu a gymeradwywyd gan Consumer Focus, corff gwarchod buddiannau defnyddwyr y llywodraeth, ewch at: www.consumerfocus.org.uk.

Mae’n bosib y cewch gynnig yswiriant salwch critigol pan ydych yn cael morgais. Fodd bynnag, mae’n bosib bod y polisi sy’n cael ei gynnig i chi yn rhatach ac yn fwy addas ar eich cyfer chi. Dylech wirio sut mae’n cymharu â pholisïau tebyg eraill.

Beth yw cost yswiriant salwch critigol?

Mae costau yswiriant salwch critigol yn amrywio o berson i berson a chânt eu heffeithio gan y pethau canlynol:

  • eich oed. Yr henach ydych chi pan gewch y polisi, y mwyaf y byddwch yn debygol o dalu oherwydd bod eich risg o salwch yn uwch

  • eich rhyw. Mae dynion yn hawlio ychydig yn fwy na menywod, felly mae’n bosib y bydd yn rhaid iddynt dalu mwy

  • eich iechyd. Os ydych yn iach, byddwch yn talu llai am yswiriant

  • eich swydd. Os oes gennych swydd beryglus, byddwch yn talu mwy am yswiriant

  • eich hobïau a’ch ffordd o fyw. Os oes gennych hobïau peryglus, neu os ydych yn ysmygu, er enghraifft, byddwch yn talu mwy am yswiriant.

Canslo eich polisi yswiriant

Fel arfer mae gennych 30 diwrnod i ganslo eich polisi a chael ad-daliad llawn os nad ydych wedi hawlio.

Ar ôl 30 diwrnod, dylech fod yn gallu canslo eich polisi ond efallai ni ad-delir eich premiymau. Bydd angen i chi wirio telerau ac amodau eich polisi.

Cymorth a gwybodaeth ychwanegol

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.