Prynu yswiriant i’ch ffôn symudol

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Pan fyddwch chi’n llofnodi contract ffôn symudol fel arfer fe gewch gynnig cyfle i brynu polisi yswiriant oddi wrth eich darparwr. Does dim rhaid i chi brynu’r yswiriant hwn ac mae angen i chi ystyried ai dyma’r opsiwn gorau i chi.

Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych chi am y gwahanol fathau o yswiriant y gallwch eu cael i’ch ffôn symudol.

Gair o gyngor

Darllenwch brint mân y polisi yswiriant

Mae angen i chi wybod:

  • faint yw’r tâl-dros-ben ar y polisi - mae hyn yn golygu y swm y bydd rhaid i chi ei dalu cyn y caiff unrhyw hawliad ei dalu

  • pa fath o eithriadau sydd gan y polisi - er enghraifft nid chaiff ffonau a gaiff eu dwyn o ysgol neu adeiladau cyhoeddus eu cynnwys mewn llawer o bolisiau.

Ydy hi’n werth yswirio eich ffôn symudol?

Bydd angen ystyried y ffactorau canlynol wrth benderfynu yswirio eich ffôn symudol neu beidio:

  • y math o ffôn rydych chi’n ei ddefnyddio, ac

  • a oes contract misol gennych chi.

Mae’r rhan fwyaf o bolisïau yswiriant ffôn symudol yn cynnwys tâl-dros-ben sydd o leiaf £25. Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i chi dalu’r £25 cyntaf mewn unrhyw hawliad rydych chi’n ei wneud.

Os ydych chi’n talu wrth fynd

Os mai cytundeb talu wrth fynd sydd gennych chi a ffôn rhad sylfaenol, ni fydd colli                                                       eich ffôn yn costio llawer i chi ac felly efallai nad yw’n werth talu am yswiriant yn fisol. Ond os oes gennych chi ffôn clyfar drud a chontract misol yna gallai cost colli eich ffôn fod yn gannoedd o bunnoedd.

Cofiwch os nad oes gennych chi yswiriant ffôn symudol, bydd rhaid i chi dalu cost unrhyw alwadau anawdurdodedig a wneir yn y cyfnod rhwng colli eich ffôn a hysbysu ei fod ar goll neu wedi’i ddwyn. Mae’r mwyafrif o bolisïau yswiriant ffôn symudol yn cynnwys y galwadau anawdurdodedig hyn, ond gallai llawer wrthod talu os byddwch chi wedi gadael eich ffôn mewn man cyhoeddus neu wedi methu â hysbysu eich cwmni ffôn a’r heddlu am ladrad o fewn 24 awr.

Os ydych chi’n penderfynu yswirio eich ffôn symudol

Os ydych chi’n penderfynu eich bod am yswirio eich ffôn symudol bydd angen i chi ddarllen print mân unrhyw bolisi. Bydd angen i chi ganfod:

  • faint o dâl-dros-ben sydd ar y polisi - mae hyn yn golygu’r swm y bydd rhaid i chi ei dalu cyn caiff unrhyw hawliad gennych chi ei dalu

  • pa fath o eithriadau sydd ar y polisi - er enghraifft nid yw ffonau a gaiff eu dwyn o ysgol neu adeiladau cyhoeddus yn cyfrif mewn llawer o bolisïau.

Edrychwch i weld a oes yswiriant gennych yn barod

Cyn cytuno i gymryd unrhyw yswiriant ffôn symudol gwnewch yn siwr nad yw eich ffôn eisoes wedi’i yswirio drwy:

  • yswiriant eich cartref

  • yswiriant a gewch drwy eich cyfrif banc

Gwnewch yn siwr fod unrhyw yswiriant rydych chi’n ei brynu yn dod o gwmni dilys.

Yswiriant gan eich cwmni ffôn symudol

Y ffordd symlaf a mwyaf cyfleus i yswirio eich ffôn yw drwy brynu polisi eich rhwydwaith ffôn. Fel arfer fe gewch gynnig y math hwn o yswiriant pan fyddwch chi’n llofnodi eich contract ffôn. Fodd bynnag gall polisïau fel hyn fod yn ddrud iawn ac fel arfer nid dyma’r gwerth gorau am arian. Mae’n bosibl y bydd staff mewn siopau ffonau symudol yn ceisio eich perswadio i gymryd eu hyswiriant nhw ond cofiwch:

  • does dim rhaid i chi drefnu yswiriant i’ch ffôn symudol

  • peidiwch â rhuthro i wneud penderfyniad oherwydd efallai y gallwch ddod o hyd i fargen well os gwnewch chi ychydig o ymchwil.

Yswiriant y cartref

Yr opsiwn rhataf fel arfer yw ychwanegu eich ffôn i yswiriant eich cartref fel eitem ychwanegol o eiddo y tu allan i’r cartref. Bydd hwn yn llawer rhatach na ffyrdd eraill o yswirio eich ffôn a bydd eiddo arall hefyd yn dod dan y polisi. Serch hynny mae’n bwysig iawn edrych i weld beth yw’r tâl-dros-ben ar bolisi yswiriant eich cartref oherwydd gallai fod yn £100 neu fwy. Hefyd bydd angen i chi gofio y gallai ychwanegu eich ffôn at bolisi yswiriant eich cartref arwain at daliadau premiwm uwch. Fel arfer fe gewch chi ostyngiad ar eich yswiriant cartref os nad ydych chi’n gwneud unrhyw hawliadau. Mae hyn yn golygu os ydych chi’n hawlio am eich ffôn y gallai cost eich yswiriant cartref godi.

Yswiriant ar ei ben ei hun

Gallwch brynu polisi yswiriant arbennig ar gyfer eich ffôn. Yn aml caiff hwn ei alw yn yswiriant teclyn ac mae llawer o bolisïau ar gael. Yn aml dyma’r ffordd rataf i yswirio eich ffôn a gallwch wneud yn siwr fod y polisi’n cynnig yn union yr hyn rydych chi’n ei ddymuno. Gwnewch yn siwr eich bod yn edrych ar delerau ac amodau’r polisi.

  • Gallwch gymharu polisïau yswiriant ffôn symudol arlein yn Defaqto.com

Os ydych chi’n newid eich meddwl am yswiriant

Os ydych chi’n prynu yswiriant ffôn symudol ac yna’n penderfynu nad ydych chi am ei gadw, mae gennych chi gyfnod o 14 diwrnod i newid eich meddwl, gan ddechrau ar y diwrnod y prynoch chi’r yswiriant. Mae hyn yn golygu y gallwch ddileu’r polisi o fewn y cyfnod hwnnw a chael ad-dalu eich arian i gyd.

Y camau nesaf

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

  • Gallwch ddefnyddio’r rhyngrwyd i ddod o hyd i’r polisi yswiriant sy’n iawn i chi. Gallwch gymharu yswiriant ffôn symudol yma: Defaqto.com.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 24 Chwefror 2020