Sut i ddatrys problem gyda'ch hawliad yswiriant

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae yswiriant yn rhoi sicrwydd ychwanegol i chi os digwydd i rywbeth fynd o'i le. Ond, os oes angen i chi hawlio, efallai y cewch drafferth cael eich arian yn ôl. Er enghraifft, efallai y bydd eich cwmni yswiriant yn gwrthod talu allan, neu efallai y bydd yn talu llai i chi na'r swm yr oeddech wedi ei hawlio. Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych beth fedrwch chi ei wneud os oes problem gyda'ch hawliad.

Cysylltwch â'ch cwmni yswiriant

Efallai bod rheswm da dros benderfyniad eich cwmni yswiriant am eich hawliad. Cyn i chi wneud unrhyw beth, darllenwch eich dogfen bolisi i sicrhau bod yr hyn yr ydych am gwyno yn ei gylch yn cael ei ganiatáu yn eich polisi.

Os yw’n cael ei ganiatáu yn eich polisi, ysgrifennwch at eich cwmni yswiriant, a dweud wrthyn nhw beth hoffech chi iddyn nhw ei wneud am y sefyllfa. Dylech gadw copi o'ch llythyr ac anfon unrhyw ohebiaeth trwy bost cofnodedig.

Os nad ydych yn hapus gydag ymateb eich cwmni yswiriant, fe allwch gwyno'n ffurfiol gan ddefnyddio proses gwyno swyddogol eich cwmni yswiriant. I ddarganfod sut mae'r broses gwyno'n gweithio, darllenwch eich dogfennau polisi ar wefan eich cwmni yswiriant.

Os nad ydych yn hapus â chanlyniad y weithdrefn gwyno ffurfiol o hyd, fe allech ystyried mynd â'r gwyn ymhellach.

Os yw'ch cwmni yswiriant yn aelod o Lloyds, fe fyddwch yn medru cwyno i adran o'r enw Policyholder and Market Assistance Department. Os nad ydych yn hapus â chanlyniad y gwyn, fe allwch gwyno at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.

Defnyddio Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol

Rhaid i bob cwmni yswiriant ddod o dan reolau'r gwylgi ariannol, Awdurdod Ymddygiad Ariannol (yr FCA). Mae hyn yn golygu, os oes cwyn gennych am gwmni yswiriant, y gallwch fynd â'ch cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol. Mae'r gwasanaeth hwn yn wasanaeth rhad ac am ddim sydd ar gael i chi os ydych eisoes wedi dilyn proses gwyno'r cwmni yswiriant.

Fe fydd Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol yn ceisio datrys eich cwyn gan ddefnyddio cyfryngu. Os nad oes modd datrys yr anghydfod yn y ffordd yma, fe fydd Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol yn dechrau ymchwiliad ffurfiol.

Mae'r penderfyniad terfynol a geir ar ddiwedd yr ymchwiliad hwn yn eich rhwymo chi a'ch cwmni yswiriant. Mae hyn yn golygu eu bod yn gorfod cadw at amodau a thelerau'r penderfyniad a wnaed gan yr Ombwdsmon.

Ond, os nad ydych yn cytuno â'r penderfyniad, rydych yn rhydd i ddwyn achos llys yn erbyn eich cwmni yswiriant.

Mae dwyn achos llys yn medru bod yn dipyn o straen ac yn medru costio arian. Dylech ystyried hyn fel yr opsiwn olaf un. Fe fydd y llys hefyd yn ystyried unrhyw benderfyniad a gafwyd gan yr Ombwdsmon yn barod.

Terfynau amser ar gyfer cyflwyno'ch cwyn i'r Ombwdsmon

Rhaid i chi gwyno i'r Ombwdsmon o fewn:

  • chwe mis i'r dyddiad y cawsoch ymateb terfynol gan y masnachwr. Rhaid i'r ymateb hwn grybwyll y ffaith fod terfyn amser o chwe mis gennych i fynd at yr Ombwdsmon

  • chwe blynedd i'r digwyddiad yr ydych yn cwyno yn ei gylch. Os oes mwy na chwe blynedd ers y digwyddiad, mae gennych dair blynedd o'r dyddiad yr oeddech yn gwybod bod rheswm gennych dros gwyno, neu y byddai'n rhesymol i chi fod wedi gwybod bod rheswm gennych dros gwyno.

Ond, os ydych tu allan i'r terfynau amser hyn, fe allwch gyfeirio'r gwyn at yr Ombwdsmon o hyd. Efallai y bydd yn dal i ymchwilio i'ch cwyn, tra na fydd y masnachwr yn gwrthwynebu. Os yw'r masnachwr yn gwrthwynebu am i'r terfynau amser fynd heibio, ni fydd yr Ombwdsmon yn ymchwilio i'ch cwyn.

Mae yna wahanol derfynau amser ar gyfer cwyno ynghylch taliadau gwaddol ar forgais. Gweler www.financial-ombudsman.org.uk.

Camau nesaf

  • ·Darllenwch eich polisi i sicrhau nad oes rheswm da gan eich cwmni yswiriant i beidio â’ch talu

  • ·Ysgrifennwch at eich cwmni yswiriant gan ddefnyddio'i broses gwyno

  • ·Os nad ydych yn medru datrys y broblem yn uniongyrchol gyda'ch cwmni yswiriant, efallai y byddwch yn medru cwyno at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.

Os oes angen help pellach arnoch

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Gwybodaeth bellach am Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol

Ffôn: 0800 023 4567.

Lloyds Policyholder and Market Assistance Department

Ffôn: 020 7327 5693

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 20 Chwefror 2020