Canslo polisi yswiriant
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae yswiriant yn rhoi gwarchodaeth ychwanegol i chi os yw’n pethau’n mynd o chwith. Fodd bynnag, efallai y byddwch chi’n penderfynu nad ydych chi’n dymuno neu angen eich polisi yswiriant mwyach. Mae’r dudalen hon yn esbonio’r hyn y gallwch ei wneud os ydych chi wedi prynu polisi yswiriant ac yn penderfynu eich bod am ei ganslo.
Canslo yn ystod y cyfnod ailfeddwl
Efallai y byddwch chi’n dymuno canslo polisi yswiriant os ydych newydd ei brynu ac wedi newid eich meddwl. Yn ôl y gyfraith, mae gennych gyfnod ailfeddwl sy’n para o leiaf 14 diwrnod, ac yn ystod y cyfnod hwnnw gallwch ganslo’r polisi am unrhyw reswm. Os ydych wedi prynu yswiriant bywyd, mae’r cyfnod ailfeddwl yn para 30 diwrnod.
Mae’r cyfnod ailfeddwl yn dechrau o’r adeg y mae’r polisi’n dechrau neu pan fyddwch yn derbyn eich dogfennau polisi, pa bynnag un sydd hwyraf. Dylech gael ad-daliad o unrhyw bremiymau yr ydych wedi’u talu’n barod. Fodd bynnag, efallai y bydd eich yswiriwr yn tynnu swm bach ar gyfer y dyddiau yr oedd eich polisi mewn grym. Efallai y bydd hefyd yn codi ffi weinyddol fach arnoch.
Efallai y bydd rhai yswirwyr yn caniatáu cyfnod ailfeddwl hwy. Os nad ydych chi’n siŵr pa mor hir y mae eich cyfnod ailfeddwl yn para, gallwch edrych yn nhermau eich polisi yswiriant.
Os ydych chi’n dymuno canslo eich polisi yn ystod y cyfnod ailfeddwl, dylech gysylltu â’ch yswiriwr cyn gynted â phosibl.
Nid yw’r hawl i ganslo yn ystod cyfnod ailfeddwl yn berthnasol i yswiriant teithio sy’n para’n llai na mis.
Canslo ar ôl y cyfnod ailfeddwl
Os ydych chi’n dymuno canslo eich polisi ar ôl y cyfnod ailfeddwl, dylech edrych ar eich polisi yswiriant. Bydd y rhan fwyaf o yswirwyr yn rhoi ad-daliad i chi os nad ydych wedi gwneud unrhyw hawliadau yn ystod blwyddyn y polisi, ond fel rheol bydd rhaid i chi dalu ffioedd gweinyddol.
Os ydych chi’n ystyried canslo eich polisi oherwydd eich bod wedi dod o hyd i gynnig gwell gydag yswiriwr arall, efallai y byddai’n haws ac yn rhatach i chi ddisgwyl nes bydd hi’n amser adnewyddu eich polisi, ac yna symud at ddarparwr arall bryd hynny.
Nid yw canslo debyd uniongyrchol yn canslo eich polisi yswiriant. Os byddwch chi’n gwneud hyn, bydd arnoch y premiymau i’r yswiriwr o hyd. Rhaid i chi gysylltu â’ch yswiriwr i ganslo’r polisi.
Mae rhai polisïau’n cael eu hadnewyddu’n awtomatig bob blwyddyn. Mae’n bwysig eich bod chi’n edrych pryd y dylai eich polisi gael ei adnewyddu fel y gallwch sicrhau nad yw hynny’n digwydd os nad ydych yn dymuno.
Mae’n syniad da eich bod chi’n gwneud yn siŵr bod gennych bolisi newydd cyn canslo’r hen un fel nad ydych heb yswiriant.
A all eich yswiriwr ganslo eich polisi?
O bryd i’w gilydd, efallai y bydd eich yswiriwr yn dymuno canslo eich polisi. Yr unig reswm y maent yn debygol o wneud hyn yw os ydynt yn credu:
·bod rhywbeth wedi digwydd i’w gwneud yn fwy tebygol i chi wneud hawliad, neu
·os nad ydych chi wedi cadw at delerau’r polisi.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd eich yswiriwr yn disgwyl nes bydd angen adnewyddu’r polisi, ac yna bydd yn gwrthod adnewyddu’r polisi.
Camau nesaf
Gwnewch yn siŵr eich bod chi o fewn y cyfnod ailfeddwl.
Os yw eich cyfnod ailfeddwl wedi dod i ben, ystyriwch a fyddai’n well disgwyl nes bydd angen adnewyddu eich polisi, yn hytrach na chanslo ar unwaith
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 20 Chwefror 2020