Cymdeithasau masnach ar gyfer y diwydiant moduron a chysylltiadau defnyddiol
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae cymdeithasau masnach yn cynnig codau ymarfer sy'n gosod safonau gwasanaeth y cytunwyd arnynt, ac mae'n rhaid i'w haelodau eu dilyn. Mae llawer ohonynt hefyd yn cynnig gwasanaethau cymodi a chyflafareddu y medrwch eu defnyddio os nad ydych yn medru datrys y broblem. Mae'r rhain yn medru bod yn ganolwyr i'ch helpu chi a'r deliwr neu'r garej ddatrys y broblem.
Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth i chi ar ddarganfod os yw deliwr ceir neu garej yn aelod o gymdeithas fasnach ac a yw'n medru eich helpu i ddatrys problem gyda'r deliwr. Mae yna fanylion hefyd ynghylch mudiadau defnyddwyr eraill sy'n medru eich helpu.
Gair o gyngor
Pan fyddwch chi'n mynd at ddeliwr ceir neu garej, chwiliwch am arwydd cymdeithas fasnach bob tro. Os yw'r gymdeithas yn aelod, bydd yn rhaid iddi ddilyn cod ymarfer. Os nad ydych yn siwr a yw'r arwydd yn ddidwyll ai peidio, fe allwch holi'r gymdeithas fasnach yn uniongyrchol i ddarganfod a yw'r busnes yn aelod.
Motor Codes Limited
Mae Motor Codes yn gorff hunan-reoleiddio diduedd sy’n gweithredu Codau Ymarfer a gymeradwywyd gan y Swyddfa Masnachu Teg sy’n gosod y safon lleiaf y gellir ei disgwyl gan ei aelodau.
Mae’r Cod Ymarfer ar gyfer Ceir Newydd yn cynnwys 99 y cant o’r holl gerbydau a werthir o fewn y Deyrnas Unedig. Mae’n gosod y safonau ar gyfer ceir newydd ac mae’n rhaid i’w aelodau ddilyn y safonau hyn. Mae’r cod yn ymrwymo’i aelodau i werthu cerbydau mewn ffordd gonest a theg ac i ddarparu warantïau mewn Saesneg clir.
Mae dros 6,800 o garejys wedi tanysgrifio i’r Cod Gwasanaethu a Thrwsio ac felly dyma’r Cod mwyaf o’i fath i’w gymeradwyo gan y Swyddfa Masnachu Teg. Mae’r cod hwn yn ymrwymo’r aelodau i ddarparu polisïau prisio agored a thryloyw a gwasanaethau gonest a theg.
Os yw’ch garej yn aelod o Motor Codes ac nid ydyw wedi datrys eich cwyn mewn ffordd foddhaol, dylech gysylltu â Motor Codes i gael cyngor. Fe fyddan nhw’n eich helpu i ddatrys eich anghydfod yn rhad ac am ddim gan ddefnyddio eu gwasanaeth cymodi a chynghori eu hunain. Os nad oes modd datrys y mater o hyd, mae Motor Codes yn medru cynnig cyflafareddu i chi am ffi fach.
Chwilio am garej sy’n dilyn Cod Ymarfer a gymeradwywyd gan y Swyddfa Masnachu Teg
Defnyddiwch declyn darganfod garejys ar-lein Motor Codes i ddod o hyd i’ch garej agosaf a gymeradwywyd gan y Swyddfa Masnachu Teg:
Motor Codes Limited
PO Box 44755
London
SW1X 7WU
Llinell gyngor i ddefnyddwyr: 0800 692 0825
E-bost: consumer@motorcodes.co.uk
Gwefan: www.motorcodes.co.uk
Retail Motor Industry Federation
Mae RMI (Retail Motor Industry Federation) yn gymdeithas fasnach ar gyfer y diwydiant moduron sy'n cynnwys delwyr cerbydau masnachfraint, garejys annibynnol, safleoedd peintio ceir a delwyr beiciau modur.
Rhaid i aelodau RMI ddilyn codau ymarfer yr RMI ar gyfer y diwydiant moduron, gan gynnwys y rheiny ar gyfer beiciau modur. Mae'r RMI yn gweithredu gwasanaeth cymodi mewnol yr ydych yn medru ei ddefnyddio os yw'r garej yn aelod o'r RMI.
Dylech geisio defnyddio'r gwasanaeth cymodi dim ond os ydych wedi ceisio datrys y broblem gyda'r garej yn gyntaf ac heb lwyddo. Os nad yw'r cymodi'n gweithio efallai y byddwch yn medru defnyddio gwasanaeth cyflafareddu'r RMI. Mae'n defnyddio aseswr annibynnol i ddelio â'r gwyn.
The National Conciliation Service
Retail Motor Industry Federation
9 North Street
Rugby
CV21 2AB
Ffôn: 01788 538317
Gwefan: www.rmif.co.uk
Motor Cycle Industry Association
Rhaid i aelodau'r MCI (Motor Cycle Industry Association) ddilyn y Cod Ymarfer ar gyfer y diwydiant beiciau modur. Lluniwyd y cod gyda'r Swyddfa Masnachu Teg. Mae'r MCI yn medru eich cyfeirio chi at y gwasanaeth cymodi mewnol a weithredir gan yr RMI (Retail Motor Industry Federation).
Os yw'r cymodi'n methu â datrys y broblem, efallai y byddwch yn medru defnyddio cynllun cyflafareddu annibynnol yr RMI. Mae'n defnyddio aseswr annibynnol i ddelio gyda'r gwyn.
Motor Cycle Industry Association (MCI)
1 Rye Hill Office Park
Birmingham Road
Allesley
Coventry
CV5 9AB
Rhif Ffôn: 02476 408000
Ffacs: 02476 408001
E-bost: motorcycling@mcia.co.uk
Gwefan: www.mcia.co.uk
Mudiadau eraill i ddefnyddwyr
Safonau Masnach
Mae Safonau Masnach yn wasanaeth gan yr awdurdod lleol sy'n ymchwilio i broblemau defnyddwyr, yn enwedig ble mae trosedd wedi digwydd.
Nid yw Safonau Masnach yn cymryd achosion unigol. Os oes problem gennych, dylech gysylltu â llinell gymorth Cyngor ar Bopeth yn gyntaf, neu, yng Ngogledd Iwerddon, Consumerline.
Mae adrannau Safonau Masnach rhai awdurdodau lleol yn rhedeg cynlluniau lleol sy'n achredu masnachwyr nwyddau. Mae'r rhain yn medru eich helpu i ddod o hyd i fasnachwyr dibynadwy y gellir ymddiried ynddynt. Cysylltwch â'ch awdurdod lleol am fanylion.
Camau nesaf
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.