Gwaith rydych chi’n cael ei wneud tra byddwch chi’n derbyn ESA
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Rydych chi’n gallu gwneud rhywfaint o waith am dâl neu’n ddi-dâl tra byddwch chi’n derbyn ESA a fydd hynny ddim yn effeithio ar eich budd-dal. ‘Gwaith a ganiateir’, neu ‘waith â chymorth a ganiateir’ yw hyn.
Mae unrhyw waith yn gallu bod yn waith a ganiateir cyn belled â bod pob wythnos rydych chi’n gweithio yn llai nag 16 awr, a’ch bod chi’n ennill llai na £125.50. Does dim ots os ydych chi yn y grŵp cymorth neu’r grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith.
Mae ‘gwaith â chymorth a ganiateir’ yn waith sydd naill ai’n:
cael ei oruchwylio gan rywun o gyngor lleol neu sefydliad gwirfoddol sy’n gyfrifol am drefnu gwaith i bobl anabl, neu’n
rhan o raglen driniaeth dan oruchwyliaeth feddygol
Gallwch ennill hyd at £125.50 yr wythnos yn gwneud gwaith â chymorth a ganiateir hefyd.
Os nad ydych chi’n siŵr a fydd y math o waith rydych am ei wneud yn cael ei ystyried yn waith a ganiateir neu waith â chymorth a ganiateir, gallwch ofyn i gynghorydd profiadol yn eich Cyngor ar Bopeth lleol a bydd yn gallu’ch helpu chi.
Os ydych chi’n mynd i ddechrau gwneud gwaith a ganiateir, gwaith â chymorth a ganiateir, neu wirfoddoli, bydd angen i chi lenwi'r ffurflen gwaith a ganiateir a'i dychwelyd i swyddfa'r Ganolfan Byd Gwaith sy'n talu'ch ESA.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 06 Ebrill 2020