Grŵp cymorth a grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith ESA
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os ydych chi'n gymwys i gael ESA (Lwfans Cyflogaeth a Chymorth) byddwch yn cael eich rhoi yn y naill neu'r llall o’r canlynol:
y grŵp cymorth
y grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith
Fe gewch lythyr penderfyniad gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn dweud wrthych pa grŵp rydych chi ynddo. Bydd y DWP yn gwneud y penderfyniad hwn yn seiliedig ar y wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi ar eich ffurflen ESA50 a chanlyniadau'r asesiad meddygol.
Os ydych chi’n credu eich bod chi wedi cael eich rhoi yn y grŵp anghywir
Gallwch ofyn i’r DWP ailystyried eu penderfyniad. ‘Ailystyriaeth orfodol’ yw hyn.
Y grŵp cymorth
Os ydych chi wedi cael eich rhoi yn y grŵp cymorth, mae'n golygu bod y DWP wedi penderfynu nad ydych chi’n gallu gweithio ac nad yw'n disgwyl i chi wneud unrhyw beth i wella'ch siawns o ddod o hyd i waith
Fodd bynnag, os ydych chi yn y grŵp hwn a’ch bod yn penderfynu eich bod am gymryd rhan mewn gweithgareddau cysylltiedig â gwaith beth bynnag, gallwch wneud hynny. Defnyddiwch y manylion cyswllt ar eich llythyr penderfyniad i adael i'r DWP wybod eich bod am wneud hyn. Byddant yn rhoi gwybod i chi a oes unrhyw weithgareddau cysylltiedig â gwaith addas yn digwydd yn eich ardal chi y gallech gymryd rhan ynddo.
Y grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith
Os ydych chi wedi cael eich rhoi yn y grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith, mae'n golygu bod y DWP wedi penderfynu bod eich anabledd neu’ch cyflwr iechyd yn cyfyngu ar eich gallu i weithio ar hyn o bryd, ond bod yna bethau y gallwch eu gwneud i wella hyn.
Does dim disgwyl i chi chwilio am waith, ond gallwch gael cais i fynd i gyfweliad sy'n canolbwyntio ar waith ac yna gwneud gweithgareddau cysylltiedig â gwaith. Mae'r gweithgareddau hyn yn bethau a fydd yn gwella'ch siawns o weithio yn y dyfodol ym marn y DWP.
Ni fydd angen i chi fynd i gyfweliad sy'n canolbwyntio ar waith neu wneud unrhyw weithgareddau cysylltiedig â gwaith os:
ydych chi’n rhiant sengl â phlentyn o dan flwydd oed
ydych chi wedi cyrraedd oedran Credyd Pensiwn
Gallwch weld a ydych chi wedi cyrraedd oedran Credyd Pensiwn drwy ddefnyddio’r cyfrifiannell ar GOV.UK.
Cyfweliadau sy’n canolbwyntio ar waith
Os ydych chi’n cael eich rhoi yn y grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith, byddwch yn cael cais i fynd i gyfweliad sy'n canolbwyntio ar waith. Cyfweliad gyda chynghorydd personol yn y Ganolfan Byd Gwaith fydd hwn.
Yn y cyfweliad, bydd eich cynghorydd personol yn ceisio deall yn well eich sefyllfa a'ch galluoedd a'ch cyfyngiadau. Byddant yn edrych ar yr hyn y gallwch chi ei wneud eisoes, yr hyn y gallech chi ei wneud yn y dyfodol a pha help fyddai ei angen arnoch i chi allu mynd i'r gwaith.
I wneud hyn, byddan nhw am siarad â chi am:
eich hanes gwaith a'ch cymwysterau
y camau y gallech eu cymryd a allai’ch helpu chi i weithio yn y pen draw
unrhyw gymorth ymarferol a fydd ar gael i chi
Pan fyddwch yn cael ESA yn y grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith, efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i fwy o gyfweliadau sy'n canolbwyntio ar waith fel hyn.
Gweithgareddau cysylltiedig â gwaith
Os ydych chi yn y grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith, mae disgwyl i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau cysylltiedig â gwaith oni bai:
eich bod yn ofalwr sy’n cael Lwfans Gofalwr neu bremiwm gofalwr fel rhan o'ch hawliad ESA
eich bod yn rhiant sengl gyda phlentyn o dan 3 oed - os ydych chi'n rhiant sengl gyda phlentyn rhwng 3 a 13, bydd yn rhaid i chi wneud gweithgareddau cysylltiedig â gwaith, ond dim ond yn ystod oriau ysgol arferol
eich bod wedi cyrraedd oedran Credyd Pensiwn
Rhybudd: Gall eich ESA gael ei leihau dros dro (a elwir yn sancsiwn) os byddwch yn colli cyfweliad sy'n canolbwyntio ar waith neu weithgaredd cysylltiedig â gwaith y cytunwyd arno.
Os bydd angen i chi golli cyfweliad neu weithgaredd am reswm da (er enghraifft, rydych chi'n sâl iawn neu yn yr ysbyty) dywedwch wrth eich cynghorydd cyn gynted â phosib.
Mae'r gweithgareddau cysylltiedig â gwaith y bydd gofyn i chi eu gwneud yn dibynnu ar yr hyn sydd ar gael yn eich ardal chi. Gallent fod yn rhywbeth fel:
sgiliau sylfaenol ar gyfer mathemateg neu ysgrifennu
sesiynau magu hyder
dysgu sut i baratoi CV
ffyrdd newydd o reoli'ch cyflwr neu anabledd
Mae’r holl weithgareddau yn bethau a fydd yn eich helpu i gael gwaith yn y pen draw ym marn y DWP.
Ydy’r gweithgaredd yn briodol i rywun sydd â’ch anabledd neu’ch cyflwr iechyd chi?
Os oes gennych anabledd corfforol, salwch neu broblem iechyd meddwl hirdymor, dylid addasu'r gweithgareddau cysylltiedig â gwaith y mae disgwyl i chi eu gwneud er mwyn ystyried hyn - 'addasiadau rhesymol' yw’r enw ar hyn.
Dylai’ch cynghorydd personol siarad â chi am yr hyn sy’n bosib ar gyfer eich amgylchiadau, ee os ydych chi'n ddefnyddiwr cadair olwyn efallai mai dim ond lleoliadau hyfforddi â mynediad i gadeiriau olwyn y byddwch chi’n gallu mynd iddynt. Dylai hyn wneud eich gweithgareddau cysylltiedig â gwaith yn fwy hwylus i chi.
Os na fyddwch chi’n teimlo bod hyn yn digwydd, neu os oes pwysau arnoch i gytuno i wneud gweithgareddau y tu hwnt i’ch gallu, gallai hyn fod yn wahaniaethu. Gallwch wneud cwyn. Gallwch fynd i’ch Cyngor ar Bopeth lleol i gael cymorth gyda hyn.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.